MR. H. H. EDWARDS, RACINE, WISCONSIN.

H. H. Edwards died at 5.45 o'clock Sunday morning at his home No. 815 Villa street, of apoplexy, aged 72 years.

Deceased was born in Tywyn, Merioneth, North Wales, and was a quarryman by profession. He came to Racine forty two years ago and opened up three of the largest stone quarries in the county and followed up that business for twenty four years. Since that time he followed other avocations and retired. He was a man honoured by all who knew him and was honest and upright to a high degree.

He was very popular with the Welsh people of Racine, in fact, was considered the most popular Welsh citizen in Racine and Kenosha counties.

In his death Racine loses a valuable and pushing citizen and his death will be sincerely regretted.

A wife, one son, Hugh R. Edwards, and three daughters, Mrs. John R. Roberts and Misses Winifred and Margaret Elizabeth Edwards, survive to mourn the death of a loving husband and father.

The funeral will take place Tuesday afternoon at 1.30 from the house and at 2 o'clock from the Welsh Congregational church on Park avenue, of which he was an old member, and highly esteemed.

Racine Journal December 24th 1896.


MR. H. H. EDWARDS, RACINE, WISCONSIN.

Rhagfyr, 20fed, 1896, yn Racine, Wisconsin, o fewn ychydig fisoedd i fod yn 72 mlwydd oed, H. H. Edwards.

Ganed ef mewn lle o'r enw Gwalia, Towyn, Meirionydd, Gogledd Cymru, cartrefle ei hynafiaid am genedlaethau.

Dwy flynedd a deugain yn ôl ymbriododd ag Elizabeth Evans, Llanfihangel. Diwrnod neu ddau wedi eu priodas cychwynasant oddi cartref am yr Unol Dalaethau.

Ymsefydlasant gerllaw y ddinas hon.

Ganwyd iddynt bedwar o blant: Hugh R., yr adeiladydd adnabyddus, Margaret, Winnie, ac Annie, priod John M. Roberts, y rhai ydynt fyw, a'r tri blaenaf gartref gyda'u mam. Ar ei ddyfodiad i'r gymydogaeth dechreuodd ein gwrthrych, gydag ychydig eraill, agor chwarelau ceryg perthynol i gwmni neillduol. Bu yn dylyn y gorchwyl hwnw am luaws o flynyddau, a chyfrifid ef yn weithiwr diwyd a gonest.

Yr oedd wedi ei ddwyn i fyny yn grefyddol o'i febyd. Ystyrid ei dad, yr hwn a fu yn gwasanaethu swydd diacon gyda'r T. C. yn Nhowyn, am haner cant o flynyddoedd, yn nodedig ar gyfrif duwiolfrydedd ei ysbryd, a'i "sanctaidd ymarweddiad." Profodd yntau ei fod yn feddianol ar y "dduwiol anian," ac o herwydd hyny, yn ymarweddu yn bur a diargyhoedd. Er nad oedd mor eang ei wybodaeth grefyddol, a'i ddoniau, a rhai, yr oedd ganddo yn wastadol brofiad gwerth i'w draethu, a gwerth i'w glywed. Bu yn gyson a ffyddlawn hyd y gallodd yn nghynulliadau yr eglwys Gynulleidfaol, o'r hon yr ydoedd yn aelod; a theimlir chwithdod a cholled am dano.

Cyfarfyddodd a chryn lawer o brofedigaethau yn ei oes. Cafodd "ddiangfau rhag marwolaeth" amrai weithiau. Bu agos iddo golli ei einioes trwy daniad pylor yn y chwarel y gweithiai; gadawodd effeithiau parhaol ar ei olygon. Cystuddiwyd ef yn ddirfawr tua deuddeg mlynedd yn ôl, ac ofnid am fisoedd fod awr ei ymddatodiad wedi nesau; ond ymadnewyddodd drachefn i fod gyda'i deulu, ei gyfeillion, a'r frawdoliaeth grefyddol, gyda, pha rai oll, yr oedd yn anwyl a pharchus. Daeth ei ddiwedd yn hynod o sydyn ac annysgwyliadwy. Er yn dyoddef ychydig oddiwrth anwyd, teimlai ei hun y diwrnod blaenorol cystal ag arferol. Tua chwech o'r gloch y bore Sabboth y bu farw, galwodd ar un o'i blant i ddyfod a dyferyn o ddwfr iddo i'w yfed. Prysurwyd i wneyd hyny, ond, erbyn cyraedd at erchwyn ei wely, yr oedd ei ysbryd wedi ehedeg i wlad sydd uwchlaw pob angenrhaid tymorol.

Yn naturiol, meddianwyd y teulu gan fraw a thrallod mawr, a pharodd y newydd synedigaeth nid bychan yn mysg eu cyfeillion a'u cydnabod.

Daeth cynulleidfa luosog o "wyr bucheddol" i'r addoldy Cynulleidfaol i arwyddo eu parch i'w goffadwriaeth, a'u cydymdeimlad a'r teulu galarus ddydd ei gladdedigaeth. Gweinyddwyd yn briodol gan y Parchn M. J. Cadwaladr, R. T. Roberts a Thomas Evans. Yr oedd y canu dan arweiniad John Davies yn dra effeithiol. Teimlir yn ddwys dros yr un a adawyd yn weddw, a hi yn egwan a chystuddiol er's wythnosau. Yr oedd yn ddyrnod chwerw iddi, yn gystal a'r gweddill o'r teulu.

Y Drych ~ Rhagfyr 31ain 1896.