MRS. ELIZABETH ELLIS. BERLIN, WISCONSIN.

Medi 27ain, 1895, ar ôl byr gystudd o'r pleuro-pneumonia, Mrs. Elizabeth Ellis, Berlin Wisconsin, merch Griffith a Catherine Thomas, Sarn, Sir Gaernarfon, lle y ganwyd hi Ionawr 10,1827.

Priododd Griffith Roberts yn 1844, a ganwyd iddynt ddau o fechgyn a phump o ferched. Bu farw ei serchus gydmar Gorphenaf 22ain, 1864.

Yn 1870 ymfudodd Mrs. Roberts gyda'i merched ac un o'i meibion i America, ac aeth i fyw gyda'i rhieni yn agos i Waukau, Wisconsin, lle priododd Evan Ellis, yn 1878, gadawodd Mrs. Ellis dair o ferched - Kate ac Elizabeth Roberts o Milwaukee, Wisconsin, a Mrs. Maria Evans, St. Paul, Minnesota, a'r ddau fab - Hugh Roberts, Omro, Wisconsin, a Griffith Roberts yn Ngogledd Cymru.

Pan yn ugain mlwydd oed ymunodd Mrs. Ellis gyda'r M. C., ac yr oedd yn aelod o eglwys Pentraeth. Yn y wlad hon ymunodd gyda'r Bedyddwyr yn agos i Berlin, Wisconsin, lle y bu yn aelod ffyddlon hyd angeu, gan rodio yn addas i efengyl Crist. Yr oedd ein hanwyl chwaer yn feddianol ar lawer o rinweddau, ac yn deilwng o efelychiad fel mam dyner a Christion dysglaer.
W. T. WILLIAMS.

Y Drych ~ Ebrill 2ail 1896.