MRS. BRIDGET EVANS. CAMBRIA WISCONSIN.
Medi 18fed, 1896, yn Cambria, Wisconsin, Mrs. Bridget Evans, ar ôl cystudd blin am wythnosau. Nid oedd yn iach er's amser, ond nid oeddid yn meddwl fod llawer o berygl hyd rhyw bum wythnos cyn ei marwolaeth, pryd y cymerwyd hi yn boenus glaf. Galwyd ei phlant, deg mewn nifer, adref o wahanol gyfeiriadau; ond bu fyw ar ôl hyny dair wythnos, er syndod i'r meddyg.Yr oedd Mrs. Evans yn enedigol o Sir Feirionydd, Gogledd Cymru; a chafodd fyw i fod yn 75 mlwydd a chwe diwrnod oed. Priododd yn Nghymru un Humphrey Evans. Daethant i America yn 1847, a sefydlasant ar ffarm yn mhlwyf Courtland, nid yn mhell o Cambria.
Gadawyd hi yn weddw 27 mlynedd yn ôl, a bu mewn trafferth a helbul yn magu y plant. Yr oedd yn fam dirion a gofalus, a chafodd fyw i'w gweled oll wedi priodi ond y mab ieuengaf, yr hwn oedd yn byw gyda hi yn Cambria er's 15 mlynedd, a mawr oedd gofal y naill am y llall, fel yr oedd eu cartref bach mor gysurus ag un yn y pentref; ac nid oedd Evan yn meddwl colli ei fam am flynyddoedd eto.
Yr oedd y ddau yn aelodau gyda'r T. C. yn Cambria, a byddent yn ofalus iawn am bob moddion o ras. Yr oedd yr hen fam yn darllen llawer ac yn meddu teimladau crefyddol iawn; yn llywodraethu ei thymer, ac yn meddwl cyn siarad; yn gymydoges ddiabsen, a pharchus, a bu farw yn dawel mewn ffydd a gobaith. Yr oedd yn bryderus iawn am un mab oedd heb broffesu derbyn Crist. Gofynodd iddo droion a wnai efe ddim ei dderbyn ar ei dymuniad hi cyn marw. Yr oedd y plant o amgylch y gwely, ond un, yr hon oedd yn Nhalaeth Washington.
Erbyn hyn y maent oll wedi myned i'w cartrefi; ac Evan druan yn gorfod tori ei gartref i fyny. Hen Gymraes dirion o'r hen stamp oedd Mrs. Evans.
Cymerodd y claddedigaeth le Medi 21ain. Gweddiwyd yn y tŷ, a symudwyd y corff i'r capel, lle y daeth tyrfa o'r cymydogion yn nghyd i ddangos eu parch i'r ymadawedig. Gweinyddwyd gan y Parchn. E. Morgan (A.), T. R. Jones, R. M. Williams yn Saesneg, Daniel Thomas yn fyr ac i'r pwrpas.
Gosodwyd yr hyn oedd farwol o'r chwaer anwyl i orphwys yn mynwent Cambria, lle y mae canoedd lawer o Gymry wedi eu claddu.
T. R. Jones.