MRS. CATHERINE EVANS. HOLLAND PATENT, NEW YORK.
Ionawr 23ain, 1896, yn Holland Patent New York yn sydyn o'r parlys, Mrs. Catherine Evans, gwraig yr hybarch Thomas T. Evans, yn 79 mlwydd oed.Daeth i'r wlad hon o Sir Feirionydd yn ferch ieuanc, a phrododd Mr. Evans yn Remsen, Rhagfyr 7fed, 1840, y Parch. William T. Williams yn gweinyddu.
Buont yn byw yn Remsen a Floyd cyn symud i Holland Patent. Yr oedd yn ddynes rinweddol a chrefyddol iawn. Heblaw ei phriod oedranus, gadawodd chwech o blant - Taliesin Evans o New York; Gomer Evans o Angus, Minnesota; Mrs. D. S. Anthony o Sioux City Iowa.; Mrs. John Ellis o Camroden, New York, Miss Sarah Evans, Holland Patent, a Mrs. David D. Williams, Rome.