MRS. MICHAEL JONES. JUDSON, BLUE EARTH COUNTY, MINNESOTA.
Chwefror 27ain, 1896, yn Judson, Minnesota, bu farw Mrs. Michael Jones, gweddw y diweddar Mr. Michael Jones yn 82 mlwydd oed.Ganwyd y chwaer hon yn Clwtybont, Gogledd Cymru. Yn y flwyddyn 1836 ymunodd mewn priodas a Mr. Michael Jones. Ganwyd iddynt ddeg o blant, o ba rai y mae pedwar yn fyw, sef John F. Jones, Robert M. Jones, Mrs. Abraham Jones, Judson, a Mrs. Howell Phillips, Tracy.
Yn 1846 daeth i'r wlad hon gyda'i phriod, ac ymsefydlasant yn ardal Proscairon, Wisconsin; yna symudasant i Rock Hill, ac yn ddiweddaf oll i ardal Judson, Minnesota.
Tua 15 mlynedd yn ol bu farw Mr. Michael Jones, ac er yr amser hwnw cartrefai Mrs. Jones gyda'i mab John F. Jones, yn benaf, ond byddai yn talu ymweliad mynych a'r gweddill o'r plant, ac yn fawr ei gofal am danynt. Yr oedd ein chwaer yn Gristion ffyddlawn a thawel, a llawn o ffydd a chariad at yr Arglwydd Iesu Grist, ac y mae ei phlant a'i hwyrion yn ei marwolaeth wedi derbyn colled. Yr oedd yn fawr ei pharch gan bawb oedd yn ei hadnabod. Gwnai yn fawr o bob moddion crefyddol, ac ystyriai gymdeithas y saint yr oreu o bob cymdeithas. Pobl yr Arglwydd oedd ei phobl, ac erbyn hyn y mae wedi cael myned i fwynhau cymdeithas y saint wedi eu perffeithio.
Y dydd Sadwrn canlynol ymgasglodd tyrfa luosog i hebrwng gweddillion ein chwaer i dy ei hir gartref. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch. David Edwards, ac yn addoldy Jerusalem gan y Parchn. William M. Jones, John W. Roberts, Edward Thomas, Tracy; a thraddodwyd pregeth ar yr achlysur gan y Parch. David Edwards. Yna cludwyd y corff i'w roddi yn meddrod y teulu yng nghladdfa Jerusalem. Duw a fendithio y teulu oll, ac a'u gwnelo yn fendith.
D. Edwards.