MRS. CATHERINE FRANCIS. RACINE, WISCONSIN.
Ebrill 7fed, 1896, yn Racine, Wisconsin, o anhwyldeb y cylla, Catherine Francis, anwyl briod John P. Francis, yn 78 mlwydd oed.Ganed hi yn Castellmawr. plwyf Celynin. Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.
Ymfudodd y teulu i America yn 1817, gan ymsefydlu ar y cyntaf yn Whitesboro, ger Utica, New York.
Yn 1849, symudodd y teulu i Racine, lle y treuliodd yr ymadawedig y gweddill o'i hoes.
Gadawodd i alaru ar ei nol briod, dau fab a thair merch. Bu yn byw y briod, dau fab a thair merch. Bu yn byw y blynyddoedd olaf o'i bywyd gyda'i mab-yng-nghyfraith, Morris B. James a'i briod, lle y cafodd y gofal a'r tynerwch mwyaf posibl yn ei chystudd maith a phoenus. Bu ei merch Lizzie Francis hefyd yn neillduol am ei charedigrwydd i'w mam yn ei chystudd.
Cafodd Mrs. Francis ei bendithio a mam dduwiol, a darfu iddi hithau ddwyn yr iau o'i hieuenctid, canys ymunodd ag eglwys y T. C. yn y Bwlch Celynin pan yn 10 mlwydd oed, a pharhaodd yn ffyddlon hyd. y diwedd. Nodweddid hi fel gwraig lednais, ddystaw a diabsen. Yr oedd yn hynod am ei gonestrwydd hyd yn oed yn y pethau lleiaf. Yr oedd ei pharch i ordeiniadau crefyddol yn fawr, ac nid oedd ond afiechyd neu rwystrau anorfod a'i lluddiai i fod yn y cysegr, a hyny gyda'r prydlondeb ffyddlonaf. Er na wnai gymaint o arddangosiad gyda chrefydd a rhai, eto gwreiddyn y mater a gaed ynddi.
Pan ei hysbyswyd o natur anfeddyginiaethol ei hafiechyd, ni chyffrodd o gwbl. Yr oedd yn dysgwyl ac yn hiraethu am ddydd ei hymddatodiad er's amser cyn iddo ddod, a phan ddaeth yr alwad hunodd yn dawel. "Ni frysia yr hwn a gredo." Cymerodd ei hangladd le o addoldy y T. C, Ebrill y 18fed, y Parch. Richard Hughes, Cotter, Iowa, yn gweinyddu yn Gymraeg, a'i gweinidog, y Parch. Robert T. Roberts, M. A., yn gweinyddu yn Saesneg. Yr oedd yr angladd yn lluosog a pharchus iawn.