MR. JOHN FRANCIS. RACINE, WISCONSIN.
Hydref 29, 1896, yn Racine, Wisconsin, John Francis, yn 83 mlwydd a 4 mis oed. yn herwydd nychdod perthynol i henaint.Yr oedd yn enedigol o Towyn, Meirionydd, Gogledd Cymru. Daeth ef a'i briod ac un plentyn i America yn 1847, gan ymsefydlu yn Swydd Oneida, New York. Yn 1849 daethant i ardal Racine, ac yma y buont weddill eu hoes.
Bu ei briod farw chwe mis yn ôl. Y mae dau fab, tair merch, ac amryw wyrion wedi eu gadael ar ôl.
Yr oedd Mr. Francis yn meddu cylch eang o adnabyddiaeth, o herwydd yr oedd yn enwog am wneyd cyfeillion ac o'u cadw. Yr oedd yn dipyn o gerddor a bardd, a byddai yn hoffi cynganeddu englynion a phenillion. Yr oedd yn ddarllenwr mawr drwy ei oes, ac yr oedd colli gwasanaeth ei lygaid y blynyddoedd diweddaf o'i oes yn peri blinder mawr iddo. Yr oedd yn teimlo ymlyniad mawr at arferiadau a thraddodiadau gwlad ei enedigaeth; ac yr oedd ei gof am ddygwyddiadau a hanes personau a theuluoedd yn Nghymru bron yn ddiderfyn, a threuliai lawer o'i amser gyda ei hen gyfeillion i ymgomio am yr amser a fu.
Bu yn wrandawr cyson o'r efengyl ar hyd ei oes, ac yr oedd yn feddianol ar raddau o wybodaeth ysgrythyrol. Bu fyw bywyd gwastad a moesol; ond yr oedd yn gofidio na buasai wedi gwneyd cyffes gyhoeddus o Iesu Grist. Gweddiodd lawer yn ei nychdod, a cheisiai roddi ei hun fel ag yr oedd i'r Gwaredwr. Ei weddi barhaol ydoedd:
"0 cymer fi, Iesu, fel yr wyf,
A chuddia fi yn dy farwol glwyf;
Yn holltau'r graig y gwnaf fy nyth,
'Does achos ofni yno byth."
Cymerodd ei angladd le o dŷ ei fab yn nghyfraith, Morris B. James, ar y 31ain cynfisol, y Parch. Robert T. Roberts, M. A., yn gweinyddu yn Saesneg, a'r Parch. Thomas Evans yn Gymraeg.
Bydd yn chwith iawn mewn llawer cylch am yr hen gyfaill dyddan, diddichell a diniwed John Francis.