MRS. JANE GRIFFITHS. ROCKMART, GEORGIA.

Awst 28ain, 1896. Bu angeu yn ymweled a'r ardal hon yn bur fynych y misoedd diweddaf.

Awst 7fed, bu farw Mrs. Jane Griffiths, gweddw y diweddar John R. Griffiths ('Rhen Was). Yr oedd yn wael a gwanaidd er's blynyddau ond ni fu yn gorwedd namyn pum niwrnod. Cholera morbus oedd yr achos uniongyrchol o'i marwolaeth.

Ganwyd Mrs. Griffith Chwefror 17eg, 1827, yn hen ardal hynafol Beddgelert, Gogledd Cymru.

Ar ei dyfodiad i'r Talaethau Unedig ymsefydlasant yn West Bangor, Pennsylvania; ond cyn hir daethant i lawr i Georgia.

Nid oes yn aros yn awr o'r teulu ond un mab, John J. Griffiths. Yr oedd Mrs. Griffiths yn grefyddol iawn, ac iddi hi yn gymaint a neb y mae y clod yn ddyledus am sefydlu yr eglwys Bresbyteraidd yn y lle hwn. Bydd yn chwith i ni ar ôl yr hen chwaer.

Claddwyd hi y dydd canlynol yn mynwent Van Wert, y Parch. W. S. Hamiter (Pres.) yn arwain y gwasanaeth yn darawiadol iawn.

Y Drych ~ Medi 10fed 1896.