MR. HUGH W. HUGHES. BETHEL, REMSEN, NEW YORK.
Tachwedd 18fed, 1896, yn ei gartref yn Bethel, plwyf Remsen, New York, Hugh Hughes, yn 86 mlwydd oed.Yr oedd bron yn ddall er's amser gan wendidau henaint, a thuag wythnos cyn ei farw cafodd ergyd o'r parlys.
Ganwyd ef yn Sir Gaernarfon yn 1810. Ei rieni oeddynt William a Mary Hughes, y rhai gyda phedwar o blant a ymfudasant i America yn 1831.
Daeth Hugh Hughes i feddiant o fferm dda, a llwyddodd i gasglu cryn lawer o gyfoeth. Ar adeg ei farwolaeth yr oedd yn byw yn ymyl capel Bethel; a bu yn gefn i'r achos yno am flynyddau lawer, dan weinidogaeth y Parchn. Morris Roberts ac Edward Davies. Parhaodd Hugh Hughes yn hen lanc hyd 1875, pryd y priododd Mrs. Edward Edwards, yr hon fu farw Mai 17eg, 1887.
Gadawodd ar ei ôl frawd William, a'i chwiorydd Ann a Mary, a pherthynasau eraill. Claddwyd ef o gapel Bethel ddydd Sadwrn, y Parch. Edward Davies yn gweinyddu.
Y Drych ~ Tachwedd 12fed 1896.
MR. HUGH W. HUGHES. BETHEL, REMSEN, NEW YORK.
Fel y crybwyllwyd yn rhifyn Rhagfyr diweddaf, bu farw Tachwedd 18fed, 1896, yn Bethel, plwyf Remsen, New York, yr hen frawd adnabyddus i luaws mawr o Gymry yn enwedig pregethwyr yr efengyl - Hugh W. Hughes, yn 86 mlwydd oed.Ymfudasai gyda'i rieni o Tan'rallt, Abererch, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1831. Ymsefydlasant yn nghymydogaeth Bethel fel yr adnabyddir y gymydogaeth yn awr, pan yr oedd y lle yn newydd ac anial, heb ond ychydig o Gymry nac eraill, yn preswylio yno. Yr oeddynt y pryd hwnw yn deulu o rieni a phump neu chwech. o blant, a'r mab hynaf David Hughes, wedi aros ar ôl yn Nghymru.
Yn 1868, daeth yutau a'i wraig yma (yr oedd eu plant, sef mab a merch yma yn flaenorol). Bu yr hen bobl William R. a Mary Hughes fyw i oedran mawr, yr hen ŵr yn 88 mlw/dd a fu farw yn 1866, a'r hen wraig yn 93 mlwydd oed a fu farw cyn hir ar ei ôl.
Priododd eu plant yn mhen amser, ac y mae eu hiliogaeth erbyn hyn yn lled luosog. Arosodd Hugh fodd bynag yn ddibriod, a bu gartref gyda'i rieni tra y buont hwy byw. Wedi hyny yn mhen amser, priododd yntau a Mrs. Ann Edwards, gweddw y diweddar William Edwards yn y gymydogaeth. Bu hi farw yn 1887, gan ei adael ef yn weddw, ac felly y treuliodd weddill ei oes.
A bu farw ar ol treulio 65 mlynedd yn y gymydogaeth. Ymunodd a'r eglwys yn fuan ar ôl ei chychwyniad yn 1839, dan weinidogaeth y diweddar Barch. Morris Roberts, a pharhaodd yn aelod cyson a ffyddlon o honi hyd y diwedd - 57 mlynedd.
Yr oedd yn cymeryd dyddordeb mawr yn yr achos da, yn ei holl ranau. Ac yr oedd yn dra chyfarwydd a symudiadau yr enwad Cynulleidfaol Cymreig yn y wlad hon ac yn Nghymru. Yr oedd wedi darllen llawer ar Hanes yr Eglwysi Cynulleidfaol yn Nghymru, ac yr oedd yn cofio hanes pob man tu hwnt i braidd neb a adwaenasom. Yr oedd yn gyfaill mawr i bregethwyr. Bu ei dy yn gartref da i'r rhai a ddeuent i'r gymydogaeth am flynyddau lawer. Cofia lluaws mawr o honynt yn ddiau ei garedigrwydd a'i sirioldeb.
Yr oedd bob amser yn ffyddlon i'w weinidog. Tri gweinidog, dau cyn yr un presenol a fu yn Bethel er dechreuad yr eglwys yn agos i dri ugain mlynedd yn ôl. A bu Hugh W. Hughes yn ffyddlon iawn i bob un o'r tri, a bu yn gymorth mawr iddynt mewn llawer ystyr yn eu gwaith. Cyfranodd yn haeliouus at yr achos. Yr oedd ei amgylchiadau yn ei alluogi i wneuthur hyny, ac yr oedd ganddo galon ac ewyllys yn ateb i'w amgylchiâdau. Yr oedd tuhwnt i neb a fu yn perthyn i'r eglwys erioed, yn "gwir ofalu" am bob peth perthynol i'r eglwys, i fewn ac allan. Ac o'r holl golledion trymion a gafodd Eglwys Bethel yn y blynyddoedd a aethant heibio, diau genym a chymeryd pob peth at eu gilydd, mai colli yr hen frawd Hugh W. Hughes oedd y golled drymaf a gafodd eto.
Cafodd gladdedigaeth luosog er fod y tywydd yn anffafriol. Gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan y Parchn. Mr. Gray ac E. Davies ei weinidog. A rhoddwyd yr hyn oedd farwol o hono i orwedd gerllaw y capel i'r hwn y cyrchasai mor ffyddlon a difwlch am gynifer mawr o flynyddoedd, mewn gwir ddyogel obaith am adgyfodiad gwell.