MRS. JANE HUGHES. COLLINSVILLE, LEWIS COUNTY, NEW YORK.
Ebrill 30, 1896, yn ei chartref, yn Collinsville, Lewis County, New York, Mrs. Jane Hughes, anwyl briod William R. Hughes, yn 80 mlwydd, 7 mis a 19 o ddyddiau oed.Yr oedd Mrs. Hughes yn enedigol o Rhyd-Defaid, gerllaw y Bala, ac yn ferch i Robert a Jane Jones, yr hon oedd yn chwaer i'r diweddar Ellis Lewis, Collinsville.
Ymbriododd yn yr Hen Wlad gyda William Hughes. Ty'n Ddol, yn Ionawr 25,1839, agos i 60 mlynedd yn ôl. Ymfudasant i'r wlad hon yn Gorphenaf, 1857, gan gyraedd i Lewis County yn y fall. Buont yn cartrefu am dymor yn Constableville, ac wedi hyny am weddill eu hoes yn Collinsville, gan ddylyn eu goruchwyliaeth fel amaethwyr cyfrirol a pharchus.
Ganwyd iddynt 11 o blant, y rhai sydd oll yn fyw ond un a fu farw yn 7 mlwydd oed - wyth o feibion. Robert, William, Hugh, Ellis, David, John, Thomas a James, a thair o ferched. Mrs. Kate Jones, Mrs. Gwen Williams, a Mrs. Jennie Wetmore. Nid yn ami iawn y ceir teulu mor luosog wedi cael eu harbed am amser mor faith, heb fylchau pwysig wedi eu gwneyd gan angau. Cawsant oll eu dwyn i fyny yn ofalus, ac yn barchus, ac mae y rhan fwyaf o honynt wedi cyraedd sefyllfa oedd cysurus ac anrhydeddus mewn bywyd, ac un mab, yr Anrhydeddus Hugh Hughes, Turin, wedi bod yn aelod dros y county yn yr assembly. Buont oll fel teulu yn hynod garedig i'w rhieni, a choleddent oll serch dwfn a diffuant at eu mam, oedd wedi bod mor ffyddlon a gofalus o honynt.
Yn fall 1869-1870, bu ar ymweliad a'r Hen Wlad yn nghwmni ei mab, Mr. Hugh Hughes, yr hyn a fwynhaodd yn fawr, gan fod ei mam a'i brodyr a'i chwiorydd - deuddeg o honynt - oll yn fyw y pryd hyny. Dylid crybwyll ei bod yn fodryb, chwaer i fam Miss Sarah Jones, yr hon fu am flynyddau yn genhades lwyddianus yn China.
Meddai Mrs. Hughes lawer o rinweddau a rhagoriaethau. Yr oedd yn ddiwyd, gofalus, a darbodus, ac er ei bod yn dyner a serchog, cadwai ddysgyblaeth dda yn ei theulu. Yr oedd yn hynod letygar a chymwynasgar wrth rai mewn angen, neu mewn profedigaethau, ac yn neillduol felly wrth deuluoedd a phersonau oeddynt newydd ymfudo o Gymru. Mae gan lawer adgofion hyfryd am ei charedigrwydd iddynt mewn llawer dull a modd. Ni oddefai absen yn erbyn ei chvmydogion, ac yr oedd hithau yn hynod ddiabsen a pharchus yn eu plith.
Yr oedd wedi cael ei magu yn grefyddol ar yr aelwvd gartref, ac yn yr eglwys, a pharhaodd yn ffyddlawn i'w phroffes, ac yn ddichlynaidd ei buchedd weddill ei hoes. Byddai yn gyson yn moddion gras, ac yn weithgar bob amser gyda'r achos crefyddol. Hoffai hefyd ddarllen y Beibl, a dysgai lawer o hono ar ei chof, ac yr oedd yn amlwg oddiwrth ei phrofiad ei bod yn mwynhau graddau helaeth o gysuron crefydd. Pwysai ei henaid ar drefn Duw yn Nghrist am ei bywyd tragwyddol. Gadawodd ar ei hol mewn dwfn alar a hiraeth am dani, ei hanwyl briod, ar ôl agos i drigain mlynedd o fywyd priodasol; hefyd ei meibion a'i merched, a'u teuluoedd, heblaw llawer o gyfeillion a pherthynasau eraill.
Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol y dydd Sadwrn canlynol yn y tŷ, ac yn nghapel Collinsville, lle yr oedd wedi bod yn aelod ffyddlon am lawer o flynyddau. Daeth Cymry yr ardaloedd yn lled gyffredinol i'r gwasanaeth, fel arwydd o barch i'w choffadwriaeth, ac o gydymdeimlad â'r teulu yn eu galar. Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Parchn. Lewis Williams ac E. C. Evans, Remsen. Canwyd rhai o'i hoff emynau gan gor Cymreig o Turin, a gwasanaethai ei meibion fel bearers. Daearwyd ei gweddillion yn nghladdfa y teulu yn Turin.
Caffed ein hanwyl frawd, Hughes a'r teulu, brofi yn helaeth ddyddanwch yr efengyl yn en profedigaeth.