MRS. MARGARET HUGHES. FARNAMSVILLE, VERMONT.
Mawrth 24ain, 1896, yn Farnamsville, Vermont, wedi dros ddwy flynedd o gystudd trwm, Mrs. Margaret Hughes, priod Owen R. Hughes, yn 56 mlwydd oed.Merch ydoedd i'r diweddar Jacob Lewis, saddler, Maentwrog, Gogledd Cymru.
Y mae iddi ddau o frodyr yn Wind Gap, Pennsylvania, a chwaer yn Ffestiniog.
Gadawodd ar ei hol briod, a merch, a phedwar o feibion.
Dydd Sadwrn, Mawrth 28ain, hebryngwyd yr hyn oedd farwol o honi gan dyrfa barchus a lluosog mewn 46 o gerbydau i fynwent Poultney, Vermont. Gweinyddwyd yn effeithiol yn y tŷ wrth gychwyn ac ar lan y bedd gan y Parch. Ellis Roberts, Poultney.
H. D.