MR. ROBERT M. HUGHES. PLYMOUTH, PENNSYLVANIA.
Hydref 16eg, 1896, y cyfaill serchog Robert M. Hughes, Plymouth, Pennsylvania, o'r pneumonia, ar ôl cystudd trwm iawn o tua deg diwrnod.Brodor ydoedd o Gapel Curig, Sir Gaernarfon, ac yn 47 mlwydd oed. Ymfudodd i'r wlad hon tua 16 mlynedd yn ôl, a threuliodd yr oll o'r amser yn yr ardaloedd hyn, gan wneyd ei gartref gyda'i gyfeillion caredig, Dd. D. Williams a'i deulu, ar heol Eno, oddigerth rhyw flwyddyn y bu yn nghylchoedd Shenandoah, lle yr ymunodd a'r Knights of Pythias, y rhai a wnaethant eu rhan yn deilwng i gynorthwyo y teulu parchus hwn i ofalu am dano.
Yr oedd iddo gyfeillion lluosog yn mhob man yr oedd yn adnabyddus. gan ei fod yn ddyn o dymer hynaws anghyffredin, yn weithiwr diwyd, ac yn neillduol o gymwynasgar i bawb mewn angen.
Er nad oedd yn aelod crefyddol, nis gallaf feddwl am neb o rodiad mwy dichlynaidd, hyd yn nod yn mysg y crefyddwyr penaf. I gapel yr Annibynwyr yr arferai fyned, a diameu y teimla yr eglwys hon ei cholled ar ei ôl, oblegid nid oedd neb yn fwy haelionus, nac yn fwy egwyddorol yn ei ddymuniad am ei llwyddiant.
Claddwyd ef yn anrhydeddus ddydd Sul, y 18fed, yn mynwent Hollenback, Wilkesbarre, y Parch. T. C. Edwards, D. D., yn gweinyddu.
HUGH G. EVANS.