MR. JOHN HUMPHREY. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Tachwedd 18fed, 1896, yn Utica, New York, wedi pedwar diwrnod o gystudd trwm o'r pneumonia, John Humphrey, yn 78 mlwydd ac 11 mis oed.Ganwyd ef yn Llanegryn, Sir Feirionydd, Rhagfyr 1818. Ymfudodd i'r America yn 1842, ac ymsefydlodd yn Marcy, Swydd Oneida. Yn 1851 bu farw ei briod, gan adael pump o blant bychain yn amddifad o fam. Mae y pump eto yn fyw i weled colli tad tyner a gofalus, sef Mrs. Wm. D. Jones, Milwaukee, Wisconsin; Mrs. John Davies, Lime Spring, Iowa; John Humphrey, Chicago, Illinois; Hugh E. Humphrey, Miner, South Dakota; Benjamin Humphrey, St. Paul, Minnesota. Mae John a Hugh yn hen filwyr. Yr oedd Mr. a Mrs. Jones, a Mr. Humphrey, Chicago, yn yr angladd.
Yn 1867 priododd Mr. Humphrey Mrs. Mary Roberts,, a bu iddynt ddau o blant, sef Isaac a Mary Humphrey, Utica, New York. Plant Mrs. Humphrey o'i gŵr cyntaf ydynt - Mrs. D. L. Jones, Edward E. ac Evan Roberts, Nelson; Mrs. Frank Williams, Trenton; a David Roberts, South Trenton, New York.
Carient feddyliau uchel am eu tad gwyn, ac yr oeddynt yn bresenol yn ei angladd. Mae y weddw, y plant, ac amryw wyrion, mewn galar o herwydd colli pen y teulu.
Ar yr 20fed, daeth tyrfa luosog i hebrwng gweddillion yr ymadawedig i fynwent Forest Home, ger y ddinas. Gweinyddwyd gan y Parch. Dr. Gwesyn Jones.
Ffarmwr oedd Mr. Humphrey, ond y ddwy flynedd ddiweddaf bu yn byw yn Utica. Yr oedd yn weithiwr diwyd, yn gymydog cymwynasgar a heddychol, yn ddinesydd parchus, yn grefyddwr ar hyd ei oes, ac yn aelod cymeradwy a didramgwydd gyda'r Annibynwyr. Brawd i'r ymadawedig yw yr henafgwr parchus Ellis Humphrey, Bangor, Wisconsin.