MISS. ANNE CATHERINE HUMPHREYS. LONG CREEK, IOWA.
Mehefin 30ain, 1896, yn 24 mlwydd oed, Miss Anne Catharine Humphreys, merch Mr. a Mrs. Edward Humphreys, Long Creek, Iowa.Ganed hi yn Llwyngwril, Gogledd Cymru. Yr oedd yn ferch ieuanc rinweddol, gyflym ei deall, a chryf ei hysbryd. Cipiodd y wobr gyntaf yn ei dosbarth yn yr unig arholiad sirol y cafodd fantais i'w sefyll.
Dyoddefodd gystudd maith yn amyneddgar iawn, a chafodd wynebu angeu heb fod arni ofn dim niwed.
Claddwyd hi y dydd canlynol. Cynaliwyd gwasanaeth yn y tŷ ac ar lan y bedd gan ei gweinidog, yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn. Lloyd Williams (A.), W. H. Jones (A.),Chicago, a T. W. Evans (A.).
J. R. JOHNS.