MRS. MARGARET WILLIAMS JENKINS. COLUMBUS, OHIO.
Mehefin 17eg, 1896, yn Columbus, Ohio, Mrs. Margaret Jenkins, priod Mr. D. M. Williams yn 48 oed.Merch ydoedd i Williams, Ala Road, Pwllheli, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, yr hwn oedd yn aelod defnyddiol o'r eglwys Gynulleidfaol yn y dref uchod.
Daeth ein chwaer gyda'i phriod i'r wlad hon 14 mlynedd yn ôl, a threuliasant bron yr oll o'r blynyddau hyn yn Columbus.
Ni chynysgaeddwyd yr ymadawedig â chorff cryf; ac yn ystod y blynyddoedd diweddaf nychai dan law y darfodedigaeth, o'r hwn glefyd y cymerwyd ymaith yr oll o'i theulu yn flaenorol.
Mawr hoffid hi gan bawb o'i chydnabod. Bu ei haneddle yn gartref i lawer o ferched gweini. Nid oedd ball ar ei charedigrwydd.
Yn ei hymadawiad, collodd yr eglwys Gynulleidfaol chwaer ffyddlon i'r achos; ond ar yr aelwyd gartref y teimlir y chwithdod mwyaf. Fel priod a mam, llanwai ei chylch yn gyflawn.
Cymerodd y gwasanaeth angladdol le prydnawn dydd Iau, yn nghapel Washington Avenue, pryd y gwasanaethwyd gan y gweinidog. Cludwyd gweddillion ein chwaer i gladdfa y teulu gerllaw Oak Hill, Ohio. Gwasanaethwyd yno gan y Parch. Caleb Samson.
Gadawodd briod a phump o blant, a pha rai y mae cydymdeimlad dwys yn nydd eu hamddifadiad.