MR. HUMPHREY E. JONES. JUDSON, MINNESOTA.
Mawrth 28ain, 1896, yn agos i 90 mlwydd oed, Humphrey E. Jones, yn nhy ei ferch Sarah James, Judson, Minnesota, o henaint a llesgedd.Fe'i ganwyd yn Towyn, Meirionydd, ac yno y bu yn gwasanaethu gyda ffermwyr hyd nes y priododd Ellin Hughes; ac yna symudasant i Merthyr Tydfil, i'r gweithfeydd glo, hyd nes y daeth i'r wlad hon 45 mlynedd yn ol. Sefydlodd ar y cyntaf ar derfyn Portage Prairie, Wisconsin, yn 1865; ond gwerthodd ei ffarm gan wynebu am Minnesota, gan sefydlu yn Judson, ac yma y bu hyd ei ddiwedd.
Dyn hynod mewn mwy nac un ystyr oedd ef. Nid ydym yn cofio i ni ddod i gyfarfyddiad ag un oedd wedi trysori cymaint o r Beibl yn y cof, fel y dywedodd y Parch. William Evans, yr oedd adnodau y Beibl yn dod allan yn ddiarwybod iddo. Siaradai yn fynych am Gymanfaoedd Cymru a'r hen enwogion 70 mlynedd yn ôl. Adroddai yn rhwydd eu testynau a rhanau o'u pregethau. Yr oedd ganddo yr un meddwl am John Elias a Christmas Evans. Bedyddiwr selog oedd wedi bod ar hyd ei oes, oddigerth y tair blynedd diweddaf. Yr oedd wedi ymaelodi yn Carmel, o herwydd nad oedd yr un cyfleusdra iddo fod gyda ei bobl ei hun.
Daeth tort fawr yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddo. Gweinyddwyd yn y tŷ gan y Parchn. William Evans, J. W. Roberts a Griffith Roberts, ac wrth y bedd yn mynwent Minneopa Falls gan William Evans a William Powell, A. C.