MRS. JENNIE R. JONES. 97 ELM STREET, UTICA, NEW YORK.

Rhagfyr 26ain, 1896, yn bur sydyn ac annysgwyliadwy, o waed-wenwyniad, Jennie R. Jones, priod ieuanc, serchog Robert John Roberts, 97 Elm Street, Utica, New York, yn 25 mlwydd oed.

Y dydd Gwener blaenorol rhoddasai enedigaeth i efeilliaid, y rhai ni fuont fyw ond ychydig amser. Ganwyd hi yn Croesor, Sir Feirionydd,, ond ymfudodd pan yn 13 mlwydd oed, gyda'i rhieni Mrs. Jane Jones a'r diweddar William R. Jones, i ardal Bethel, ger Remsen. Ni fu ei thad fyw ond dwy flynedd wedi dyfod i'r wlad; a symudodd ei mam weddw a'i theulu i Utica, wyth mlynedd yn ôl.

Priododd yr ymadawedig gyda Mr. Roberts - brodor o'r Bala, yn Ebrill diweddaf; ac nid oedd teulu dedwyddach yn Utica. Heblaw ei mam a'i phriod galarus gadawodd ar ei hoi bedwar brawd a thair chwaer.

Am 11:30 ddydd Mawrth cynaliwyd gwasanaeth angladdol iddi yn nghapel Moriah, lle yr oedd yn aelod ffyddlon a dichlynaidd; a chymerwyd ei gweddillion i'w claddu yn mynwent Bethel; y Parch. J. Hughes Parry yn gweinyddu yn y ddau le.

Y Drych ~ Rhagfyr 31ain 1896.