MR. JOHN O. JONES. COLUMBUS, WISCONSIN.

Medi 7fed, 1896, ar ôl amryw fisoedd o gystudd, John O. Jones, Columbus, Wisconsin, yn 70 mlwydd 1 mis a 5 diwrnod oed. Ei afiechyd oedd straeniad y galon.

Genedigol oedd o dref Caernarfon, Gogledd Cymru - mab i Owen ac Elizabeth Jones. Yn 1852 ymfudodd ef a'i wraig i'r wlad hon, a buont yn cartrefu am dair blynedd yn Boston, a'r gweddill o'u hoes yn ardal Columbus. Bu iddynt un mab a phedair o ferched. Claddwyd un ferch tra yn Boston; un arall yn Bethel, Columbus; mae y ddwy eraill, Ellen ac Efa yn fyw, un yn Chicago a'r llall yn Lowville, Wisconsin. Ni wyddys pa un ai byw ynte marw ydyw y mab.

Yn Mehefin 1863, ar enedigaeth Efa, bu farw Mrs. Jones, a chladdwyd hi yn mynwent Bethel. Tachwedd 1864, priododd John Jones eilwaith gyda Mrs. Margaret Hughes, gweddw William Hughes, Cambria, Wisconsin. Cartrefai John Jones ar dyddyn bychan rhyw dri chwarter milldir o'r dref hon, hyd ryw dair blynedd yn ôl, pryd y symudodd ef a'i wraig i'r dref i fyw.

Dylynodd John Jones yr alwedigaeth o deiliwr hyd tua 14 mlynedd yn ôl. Bu yn y rhyfel am ran o 1862 a 1864, sef tua naw mis, pryd y bu raid iddo ddyfod adref o herwydd gwaeledd. Ni bu yn iach o gwbl ar ôl dod o'r rhyfel. Ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth derbyniwyd ef yn aelod o eglwys y T. C., Columbus. Dyoddefodd ei holl gystudd yn dawel a dirwgnach.

Dydd Mercher, Medi 9fed, gosodwyd yr hyn oedd farwol o hono i orwedd yn mynwent Columbus, y Parchn. John R. Jones, Mr. Fretts (M. E.), a'r ysgrifenydd yn gweinyddu.

Gadawodd weddw a dwy ferch i alaru ar ei ôl. Nawdd Duw fyddo drostynt yn eu galar.
G. GRIFFITHS.

Y Drych ~ Medi 24ain 1896.