MRS. MARGARET JONES. MOUNT PLEASANT, RACINE, WISCONSIN.

Chwefror 15fed, 1896, yn Mount Pleasant, ger Racine, Wisconsin, Mrs. Margaret Jones, yn 72 mlwvdd oed, ar ôl nychdod am lawer o fisoedd.

Yr oedd yn briod a'r diweddar ddiacon David Jones, o'r un lle, yr hwn a fu farw er's ychydig fisoedd yn ôl.

Merch ydoedd i Daniel ac Ann Thomas, Gwyddgwian, Towyn, Meirionydd, Gogledd Cymru.

Daeth y teulu i America yn 1845, gan ymsefydlu yn nghymydogaeth Racine ar fferm. Ganed iddynt bedwar o blant, a'r oll yn fyw, sef John D. a Daniel Jones, a Susie ac Ann Jane, yn awr Mrs. Hugh Edwards, Cotter, Iowa.

Yr oedd Mrs. Jones yn ddynes ddiwyd a darbodus, a priodolir sefyllfa gysurus y teulu yn awr i raddau helaeth i'w hymdrechion hi. Yr oedd yn gymydoges dda, ac yn barchus gan bawb; ac fel gwraig a mam yr oedd yn cael ei charu yn fawr.

Cafodd ei dwyn i fyny yn grefyddol o'i mebyd, a pharhaodd yn selog ac ymroddgar gyda holl ddyledswyddau crefydd ar hyd ei hoes: a bydd yn golled fawr i'r eglwys fechan yn Bryn Hyfryd ar ei hol. Dyoddefodd ei chystudd hirfaith gydag amynedd, a hollol ymostyngiad i ewyllys ei Harglwydd, ac y mae wedi dianc am byth o wlad y cystudd a'r poen i wynfyd diderfyn. Heblaw ei phlant, y mae dwy chwaer eto ar ôl, sef un yn Nghymru a Mrs. Richard Jones o Racine. Ar y 18fed cymerodd ei hangladd Ie, ac er gerwined yr hin daeth torf fawr yn nghyd i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref.

Gweinyddwyd yn y tŷ gan y Parchn. John E. Jones, Milwaukee, yn Gymraeg, a Robert T. Roberts, M. A., yn Saesneg, a darfu cantorion o'r ddinas ganu amryw weithiau emynau priodol i'r amgylchiad.
T. LL. W.

Y Drych ~ Mawrth 5ed 1896.