MRS. MARY ANN JONES. FFESTINIOG, RANDOLPH, WISCONSIN.

Rhagfyr 22ain, 1896, yn Ffestiniog, ger Randolph, Wisconsin, yn 30 mlwydd oed, Mrs. Mary Ann Jones, anwyl briod John E. Jones.

Cymerwyd hi yn sal yn sydyn iawn. Yr oedd o ymddangosiad cryf a chadarn, ond torwyd hi i lawr mewn ychydig o ddyddiau gan waed-wenwyniad.

Yr oedd Mrs. Jones yn ferch i William, B. Roberts ac Ellen Roberts ei wraig, Maes Elwy, ger Cambria, Wisconsin.

Ganwyd hi yn Bethel, Arfon, Gogledd Cymru. Ymfudodd ei rhieni i'r wlad hon pan ydoedd hi ond ieuanc.

Ymunodd mewn priodas a John E. Jones, ac aethant i fyw i gartref Mr. Jones, ac yno y bu hi farw.

Gadawodd briod a phedwar o blant bychain i alaru ar ei hol, yn nghyd a thad a mam a thri o frodyr ger Cambria, ac un chwaer yn yr Hen Wlad. Nid ydyw yr hynaf o'r plant ond deg oed, a'r ieuengaf ond 15 mis oed; felly golygfa galonrwygol oedd gweled a chlywed y plant bach, a'r tad a phawb yn wylo mor chwerw ddydd yr angladd.

Claddwyd hi yn mynwent Cambria, dydd Iau, y 24ain. Gwasanaethwyd gan yr ysgrifenydd a'r Parch. R. M. Williams (Pres.), Cambria. Cafodd angladd lluosog a pharchus, er fod y tywydd yn oer iawn.
E. MORGAN.

Y Drych ~ Ionawr 21ain 1897.