MRS. MARY J. LEWIS. GIVIN, MAHASKA COUNTY, IOWA.
Tachwedd 18fed, 1896, yn Givin, Mahaska County, Iowa, Mary J. Lewis, priod John T. Lewis, yr hon oedd mor anwyl yn ein plith fel Cymry. Tua dwy wythnos cyn ei marwolaeth yr ydoedd y teulu wedi symud yn agosach at y gwaith glo, gan fod y ffordd mor bell i deithio yn y gauaf. Maent wedi byw ddwy flynedd yn yr ardal. Rai dyddiau cyn ei marwolaeth rhoddodd enedigaeth i faban. Trwy ei bod yn wan o gyfansoddiad cymerodd anwyd, yr hwn brofodd yn angeuol iddi.Merch oedd i John a Jane Jones, Llainfawr, plwyf Llanddeiniolen, Gogledd Cymru. Ganwyd hi Awst 14eg, 1868. Claddwyd ei thad bum mis cyn ei genedigaeth, ond bu ei mam fyw hyd Chwefror 2ail, 1883.
Bu yr ymadawedig yn aros am beth amser yn Liverpool cyn ei dyfodiad i'r wlad hon. Glaniodd yn Almy, Wyoming, yn 1890, lle yr oedd ei hanwyl frawd Robert yn byw, ond yn awr yn Hiteman, Iowa.
Yn Wyoming daeth i gyffyrddiad a J. T. Lewis, brodor o Dyserth, Sir Fflint; priododd ef Ionawr 1891, a buont byw yn ddedwydd gyda'u gilydd. Gadawodd Mrs. Lewis i alaru ar ei hoi ddau frawd, un chwaer, priod, dau faban, a lluaws o berthynasau a chyfeillion. Gallwn ddweyd i ni golli o'n plith un o'r cymeriadau mwyaf dysglaer yn yr ardal. Yr oedd yn aelod ffyddlon o'r eglwys Annibynol, ac yn un o'r rhai ffyddlonaf pan byddai yr iechyd yn caniatau. Yr oedd yn eli i'w chalon gael dweyd gair da am ei chymydog.
Teimlai yn ddedwydd wrth farw, a chredai ei bod yn newid er gwell. Dydd Gwener, yr 20fed, er yr oerni eithafol, daeth llawer iawn i dalu i'n chwaer y gymwynas olaf. Gweddiwyd yn y tŷ gan ein parchus weinidog, y Parch. Camber W. Evans, a'r Parch. Owen Thomas, Hiteman. Daearwyd ei gweddillion yn mynwent Oskaloosa. Traddodwyd y bregeth angladdol y Sabboth canlynol, gan C. W. Evans, yn eglwys Givin, yn effeithiol iawn.
Dymuna ei brawd Robert trwy gyfrwng y "Drych," ddiolch i bawb am eu caredigrwydd yn yr amgylchiad. Y mae yr ardal yn cydymdeimlo a'r cyfaill John T. Lewis yn ei brofedigaeth chwerw. Goberthio y gwna yr amgylchiad ei ddwyn yntau yn fwy agos a'i bwys ar ei Waredwr.
JAMES D. THOMAS.