MR. RICHARD LLOYD. PUEBLO, COLORADO.
Ebrill 3ydd, 1896, yn Pueblo, Colorado, Richard Lloyd, ar ôl ychydig ddyddiau o gystudd o'r pneumonia, yn 32 mlwydd oed.Ganwyd ef yn Bangor, Gogledd Cymru. Enwau ei rieni oeddynt Owen ac Elizabeth Lloyd.
Ymfudodd i America tua saith mlynedd yn ôl, gan ymsefydlu yn Chicago a Waukegan, Illinois, o'r lle y symudodd i Pueblo dair blynedd yn ôl.
Claddwyd ef yn barchus Ebrill 5ed, gan dorf luosog, y Knights of Pythias a'r Cambrians yn blaenori. Gadawodd briod a phedwar o blant.