MR. RICHARD O. LLOYD. ASHLEY, PENNSYLVANIA.

Cyfarfyddodd gwrthrych y cofiant hwn a damwain yn Shafft No. 3, South Wilkesbarre, ganol nos Iau, Mehefin 4, 1896, yr hon a brofodd yn angeuol iddo am bump o'r gloch prydnawn dranoeth yn yr ysbyty.

Claddwyd ef y Sabboth canlynol, pryd y daeth tyrfa anarferol o fawr yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddo. Gweinyddwyd gan y Parch. Hugh Hughes, a'r Odyddion.

Gadawa ar ei ôl wraig a chwech o blant bach, heb neb o honynt yn abl i enill ond ychydig, ac y mae yn ymddangos yn dywyll i'r llygaid dynol, ond mae Tad yr amddifaid yn fyw, a Barnwr y gweddwon.

Ganwyd gwrthrych y llinellau hyn yn Dolyddelen, Arfon, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1863. Enwau ei rieni oeddynt Owen a Mary Lloyd. Gweithiai yn y chwarelau hyd nes y daeth i'r wlad hon.

Mae yn debyg iddo gael ei fagu gan mwyaf gyda'i daid, Richard Lloyd, yr hwn oedd yn fìaenor parchus gyda'r Annibynwyr yn yr ardal hono, ac yn y set fawr gyda'i daid yr arferai eistedd bob amser yn y capel, hyd nes y tyfodd yn fachgen lled fawr, a byddai yn meddwl llawer o'r fraint hon ar hyd ei oes; ac mae yn debyg mai yn y fan hon yr argraffwyd rhywbeth ar ei feddwl nas gallasai angeu a thragwyddoldeb ei ddileu.

Priododd pan oedd oddeutu 18 oed, gyda Mary, merch Thomas a Margaret Hughes, Penmachno. Mynych y dywedai na wyddai erioed beth oedd bod yn llanc, gan iddo briodi mor ieuanc. Ganwyd iddynt 11 o blant, chwech o'r rhai sydd yn fyw. Rhwng naw a deng mlynedd yn ôl symudasant i'r wlad hon, gan dreulio yr holl amser yn y cylchoedd hyn. Yr ydoedd yn deall ei waith yn dda, ac yn ddyn cryf a phwyllus i wybod pa fodd i arfer ei nerth. Yr oedd yn siriol ei ysbryd fel rheol, ond blinid ef yn fynych gan deimladau isel, a gwaith codi arno yn aml. Yr oedd yn gwmniwr rhagorol, yn ddyddanwr sylweddol, pan y caffai gydymaith wrth ei fodd. Er yn dawel a boneddigaidd, yr oedd yn annibynol ei ysbryd. Ni phlygai er bod ar ei golled, tra, yn credu ei fod yn iawn. Ffieiddiai weniaith o bob math, ac ni chai ddod yn agos i'w diriogaeth.

Fel tad yr oedd yn dyner, gofalus a hynod ymdrechgar; dyoddefodd lawer ar ran ei deulu, a phriodol iawn y gellir dweyd am dano, "Hyn a allodd hwn efe a'i gwnaeth." Fel cymydog yr oedd yn dawel a hollol hawdd ei drin, fel na chlywid ei lais un amser yn blino neb. Yr oedd yn gyfaill cywir, a gwerthfawrogai gyfeillgarwch, a byddai yn hynod gywir i'r hwn y byddai ganddo ymddiried ynddo, ac fel dynion da eraill ni chwynai am nad oedd ganddo lawer o gyfeillion. Yr oedd yn gymwynaswr diguro. Cawsom brawf o hyn lawer gwaith; gwelsom ef yn sefyll pan byddai pawb yn cilio braidd.

Fel swyddog yn yr eglwys, efe oedd yr ieuengaf, ond nid y lleiaf. Meddai ar wybodaeth ysgrythyrol eang, meddwl cryf, a syniadau clir, fel y byddai yn syndod, wrth ystyried ei fanteision. Caed esbonìad ar hyn ychydig cyn ei farwolaeth; cymerai y Beibl yn safon i farnu pob peth, ac os na ddeuai pob peth i fyny a'r safon hono byddai yn cael ei roddi o'r neilldu. Ni siaradai un amser bron ond trwy gymelliad. Yr oedd yn hynod o wylaidd a gochelgar, a phan siaradai yr oedd rhyw feddwl yn y peth a ddywedai. Nid siarad er mwyn siarad y byddai; ond nid oedd digon o wroldeb moesol ynddo yn aml i lanw y cylch yr oedd ynddo.

Fel Cristion deuai ei fawredd i'r golwg. Yr oedd yn wron yn y lle ag ystyried ei amgylchiadau. Ni welsom neb yn gloewi cymaint mewn gras ag ef yn nghanol cymaint o anfanteision. Curid ef gan amgylchiadau gymaint, fel y byddai bron a rhoddi i fyny yn aml; ond dywedai yn fynych, mae fy Nhad nefol yn gwybod beth sydd oreu ar fy lles, onid yw? Yr oedd yn caru Iesu Grist a chariad angerddol, a dyma, mae'n debyg, yw crefydd iawn. Yr oedd wedi ei argyhoeddi yn ddwfn, a chanddo brofiad nad yw i'w gael yn fynych gan neb o'i oedran ef. Gwelai hen bechadur mawr ynddo ei hun, ond gwelai ddigon yn yr Iawn ar ei gyfer, ac ymdaflai arno yn hollol, heb ddim o'i gyfiawnder ei hun. Ac fel pob Cristion mawr, yr oedd yn weddiwr mawr a gafaelgar anarferol ar adegau. Dywedai un gŵr o farn addfed am dano yn y Cwrdd Dosbarth, ei fod yn debyg o ran ei ddawn i'r diweddar Barch. John Ogwen Jones.

Wrth orsedd gras gan deimlo'n wyl
Gostyngai ar y llawr,
A rhaid oedd teimio lawer tro
Fod yno rywun mawr.
Gafaelai'n addewidion Duw,
Ac ni ollyngai chwaith
Nes cael y fendith oddi fry,
Gorchfygodd lawer gwaith.

Wedi bod yn trenlio oriau yn ei gymdeithas un diwrnod ychydig cyn ei farwolaeth, dywedais wrtho fy mod yn meddwl y dylasai fod yn bregethwr. "Wel," meddai, "mae y syniad wedi fy mlino ar hyd fy oes, ond mae yn debyg fod gagendor rhyngwyf a hyny."

Heddwch i'w lwch.
JABEZ M. WILLIAMS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1897.