MRS. MARGARET MORRIS, SOUTH POULTNEY, VERMONT.

Rhoddodd y chwaer anwyl a charedig uchod ffarwel am byth i'r fuchedd bresenol boreu ddydd Gwener, Mai 24ain, 1896. Dyoddefodd gystudd maith a chaled yn hynod o dawel ac amyneddgar.

Ganwyd Mrs. Morris yn Gelli Hirnant, Nant Isa, Llanberis, yn y flwyddyn 1835, felly yr oedd yn 61 mlwydd oed. Merch ydoedd yr ymadawedig i John a Margaret Thomas, Ymfudodd gyda ei rhieni i'r wlad hon pan nad oedd ond ieuanc, a bu yn byw gyda hwy yn Fair Haven, Vermont, hyd nes iddi ymuno mewn glan briodas ag un Richard Williams. Ganwyd iddi ddau o blant o'r gŵr hwn, sef John Williams, Ashtabula, Ohio, a Morris Williams. Cartrefai ef gyda ei fam yn South Poultney.

Yn 1860 aeth hi a'i theulu i Gymru, a huont yn byw yno am saith mlynedd, yn Ty'n y Clawdd, Llandegai. Yn 1867 daethant drosodd drachefn i'r wlad hon, i ardaloedd y chwareli yn Vermont. Cyn hir ar ôl eu dychweliad ymwelodd angeu a'r teulu, a chafodd Mrs. Morris ei gadael yn weddw.

Medi 14eg, 1872, priododd drachefn a Mr. Griffith Morris. Mab ydyw Mr. Morris i Howell ac Ellen Morris, Tros y Ffordd, Llanrug, Caernarfon, ac yn frawd i Thomas Morris o ddinas New York, yr hwn sydd yn flaenor da a ffyddlawn yn eglwys 13th Street. Ganwyd i Mr. a Mrs. Morris dri o blant,sef Tommie, Maggie a Griffith. Bu Tommie farw yn ei blentyndod, ond y mae Maggie a Griffith gartref gyda eu tad i deimlo colled ar ôl mam dyner a gofalus iawn. Yr oedd y chwaer hon yn hynod am ei haelioni a'i charedigrwydd i bawb. Bu yn ymdrechgar a ffyddlon ar hyd ei hoes yn ngwaith ei Harglwydd - gwaith yr oedd ei chalon yn ymhyfrydu ynddo. Byddai yn ystyried ei bod yn cael rhagorfraint neillduol pan yn cael rhoddi croesaw i weision Duw. Ac yr oedd er's rhai blynyddau yn cael gwneyd hyn, gan ei bod yn byw wrth ochr y capel yn South Poultney. Clywais hi yn dweyd ei bod wedi cael y fraint o groesawu golygydd y "Cyfaill" unwaith.

Yr oedd yn amlwg nad oedd yn ofni niwed yn y glyn, a'i bod wedi gorchymyn ei hysbryd i law yr Arglwydd. Daeth tyrfa luosog iawn i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion y dydd Llun canlynol.

Gweinyddwyd yn yr angladd gan y gweinidog, y Parch. E. R. Roberts. Daearwyd ei rhan farwol yn mynwent Poultney, Vermont. Bydded i'r Arglwydd fod yn agos at y teulu trallodedig. Duw yr ymadawedig fyddo eu Duw hwythau. A bydded iddynt sylweddoli ei addewid yn brofiadol, "Nis gadawaf chwi yn amddifaid."
E. R. R.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ionawr 1897.