MR. ROBERT MORRIS. WILKESBARRE, PENNSYLVANIA.

Rhagfyr 23ain, 1896, Robert Morris, Wilkesbarre, Pennsylvania.

Ganwyd ef mewn ffermdy o'r enw Tyddyn Felin Uwchaf, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.

Enwau ei rieni oeddynt John a Catherine Morris, dau o deuluoedd mwyaf henafol yr ardal uchod; ond y maent hwy er's blynyddau bellach wedi eu rhestru yn mhlith y rhai a fu.

Yr oedd i'r ymadawedig ddau frawd ac un chwaer; un brawd yn y wlad bon a'r gweddill yn yr Hen Wlad. Cafodd fantais yn ei yrfa grefyddol trwy iddo fod yn gwaisanaethu gyda hen flaenor parchus o'r enw Mr. Owens, Tyddyn-y-Gwynt, ger Harlech, ac y mae yn ddiameu i hyny gario ei ddylanwad arno hyd ei farwolaeth. Dyn darbodus, diymhongar oedd Mr. Morris; yn weithiwr diwyd a gonest, ac yn cael ei barchu gan bawb a'i hadwaenai. Chwarelwr oedd cyn ei ddyfodiad i'r wlad hon 16 mlynedd yn ôl.

Merch yw Mrs. Morris i'r diweddar Ellis Roberts, Clogwyn, ac wedi hyny o Penrhyndeudraeth, lle mae ei mam yn bresenol. Mae iddi chwaer yn Bryn Saethon, a dau frawd, Robert ac Ellis, mewn safleoedd parchus yn Lerpwl. Y farn fwyaf tebygol yw mai hen ysigiadau fu acbos ei farwolaeth.

Gwener y Nadolig daeth tyrfa luosog i dalu y gymwnas olaf iddo. Gweinyddwyd gan y Parchn. John O. Jones, bugail yr eglwys yr oedd yn aelod o honi, a Hugh Davies, Scranton. Claddwyd ei weddillion yn Hollenback Cemetery.

Y Drych ~ Mawrth 18fed 1897.