MRS. ANN JAMES. TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Gwraig ydoedd i Mr Richard James ieuaf o blwyf Trenton a merch i Mr Evan Owens ac Ann ei wraig o'r un plwyf gynt o Fronllwyd Bach plwyf Bryncroes sir Gaernarfon.

Ymfudasant i America yn y flwyddyn 1819. Bu farw yn y 27ain ml o'i hoedran gan adael i alaru ar ei hol ei phriod serchog a phedwar o blant bychain yr ieuangaf ond 6 wythnos oed, ynghyd a thad a mam, brodyr a chwiorydd ac amryw berthynasau. Yr oedd y chwaer hon yn un o rai llariaidd y ddaear yn ddiau yr oedd yn meddu ar lawer o ledneisrwydd ac addfwynder naturiol a diamhen fod yr addfwynder hwnw ynddi na fedr neb ei ddysgu ond yr Iesu "addfwyn a gostyngedig o galon." Cafodd y fraint o ymuno a achos Crist yn y Capel Uchaf, Steuben ers rhagor na naw mlynedd yn ôl ac ar ôl priodi symudodd gyda'i gwr i Remsen ac yno yr oedd mewn undeb eglwysig hyd ei hangau.

Yn gymnaint a bod ei chyfansoddiad yn wanaidd iawn y ffordd yn bell a thrafferthion teuluaidd yn lled fawr nid yn fynych y byddai yn gallu bod yn bresenol yn y moddon yn Eglwys Remsen. Ond yn ôl ei gallu yr oedd yn ffyddlawn a siriol iawn bob amser. A da iawn oedd ganddi gael moddion gras yn Trenten pa rai a gynhelid gan y Trefnyddion Calfinaidd a'r Annibynwyr yn nghyd; a hynod siriol oedd y teulu hwn tuag at bawb a ddeuent yno i gyhoeddi y newyddion da.

Ond yn awr y mae Ann wedi colli oddiyno ac nid yw mwy i'w chael yn nhir y rhai byw. Ei hafiechyd ydoedd gwendid a gwaeledd ei chyfansoddiad yr hwn a gynyddodd nes nad oedd unrhyw foddion i'w gael yn ddigonol er ei hadferu Yn ei chystudd diweddaf dioddefodd gryn boenau a hyny yn amyneddgar ac yn ei chystudd cafodd y fath olygiadau ar y wlad ddedwydd yr oedd yn myned iddi yn fuan fel ag yr ydoedd yn gorfoleddu a churo ei dwylaw yn nghyd gan hysbysu ei bod hi yn myned at Iesu i fyw byth.

Ffarweliai a'i phriod, ei phlant bach, ei thad a'i mam a'i theulu i gyd. A chynghorai hwynt oll i ymdawelu yn ei chylch hi, ei bod hi yn myned at Iesu; ac anogai hwythau i ymbarotoi i ddyfod ar ei hol. Pan oedd ei thad yng nghyfraith wrth y gwely dywedai wrtho "Taid yr wyf fi yn mynd i ymadael â chwi yn fuan." "Yr wytii fy merch," meddai yntau "Ydwyf" meddai hithau. "Yr ydwyf wedi cymeryd llawer gan y doctoriaid heb wneud dim lles i mi ond y mae genyf Feddyg yn awr a all yn gwbl fy iachau." Gofynai yntau a oedd hi yn credu ei fod ef yn abl i'w chadw. Atebodd "Ydwyf, ac y mae genyf obaith y gwna hefyd, ac y byddaf yn fuan gydag ef." Ar hyn fe dorodd allan mewn gorfoledd gan ddywedyd, "ni chefais i ddim llawer o ddawn canu, ond yn fuan mi gaf ar delyn aur heb nino byth" yna ad rolilei yr hen benill yn felys a nefolaidd

"Yn y dyfroedd mawr a'r tonau." a.y.

nes oedd pawb wedi eu llenwi â galar a gorfoledd fel nas medrent ddweyd un gair.

Pan oedd ysgrifenydd y llinellau hyn wrth ei gwely torodd allan mewn gorfoledd rhyfedd wrth adrodd y penill hwnw,

"O cymer fi Iesu fel yr wyf." a.y.

Nid wyf yn cofio erioed i mi weled a theimlo pethau ysbrydol yn dwyn y fath rym. Pan oedd ei natur yn nghfael y gwaeledd a'r gwendid muyaf, tragywyddoldeb mawr o'r blaen priod a pherthynasau yn wylo o'i hamgylch, pedwar o blant bychain i'w gadael ar ôl: er hyny yr oedd y dylanwad a darddai o'r golygfeydd ysbrydol yn ddigon i beri iddi orfoleddu a ffarwelio â phawb yn siriol a gwynebu y byd arall dan ganu. Achwynai ei bod wedi bod yn rhy anffyddlawn dros yr achos goreu ac anogai ei gwr i ddyblu ei ddiwydrwydd i gadw y deledswyddau i fynu yn gyson ac i ddwyn y plant bychain i fynu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Yn wyneb y gogoniant tra rhyfeddol a ymddangosai iddi o ddedwyddwch y lle, yr oedd yn myned yno i fyw - deuai i'w meddwl am rai o'i pherthynasau a'i chymydogion, ac O fath deimlad a ddangosni drostynt ac awyddfryd i'w cael i gyd o'r perygl i'r lle dedwydd. Ae yn yr ololwg ar ofnadwy drueni y rhai a fyddent yn ôl rhoddodd y fath ochenaid drom alarus ond dywedodd "mae Iesu rhyngwyf fi a'r trueni hwnw - gogoniant iddo byth." Yn fuan ar ôl y mwynhad rhyfedd a gafodd collodd i raddau drefn ei meddwl ac felly y parhaodd gan mwyaf hyd nes y gollyngwyd yr enaid yn rhydd o'r tŷ o bridd.

Cynullodd tyrfa fawr i dalu i'w rhan farwol y gymwynas ddiweddar pryd y pregethwyd y brawd R Everett oddiwrth Rhif 13:11, a chan yr ysgrifenydd oddiwrth Phil 1:23

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1848.