MR. THOMAS OWENS. QUINCY, MASSACHUSETTS.

Mai 3ydd, I896, yn Quincy, Massachusetts, Thomas Owens, ar ôl hir nychdod o r darfodedigaeth yn 62 mlwydd a 5 mis oed.

Mab ydoedd i Henry a Grace Owens, Dob, Tregarth, Sir Caernarfon, Gogledd Cymru. Yr oedd yn un o saith o blant; ac y mae yn aros ddwy chwaer a brawd, yn yr Hen Wlad a dwy chwaer yn y wlad hon, sef Mrs. Edmund Griffiths, Quincy, a Mrs. William Evans, Oakland, California.

Ymfudodd i'r wlad hon tua deugain mlynedd yn ôl, gan ymsefydlu yn Quincy, ac yno y trigianodd dros y gweddill o'i oes, oddigerth cyfnod byr y bu yn y De, cyn y rhyfel.

Yn 1861, priododd â Miss Grace Thomas o'r dref hon, chwaer i'r "actor" byd enwog, John Thomas o Boston, a ganwyd iddynt ddau o blant, Henry a Mrs. Hewhard, Quincy, Massachusetts, gyda'r hon yr ydoedd yn gwneyd ei gartref er's tro.

Dydd Mercher, y 6ed, dygwyd ei weddillion i'w claddu yn Mount Weston Cemetery. Gweinyddwyd yn y tŷ gan weinidog y Cynulleidfawyr. Cafodd angladd parchus.
CYMRO.

Y Drych ~ Mai 28ain 1896.