MRS. ELIZABETH PRICHARD. TRENTON, NEBRASKA.
Ionawr 3ydd, 1896, yn Trenton, Nebraska, Mrs. Elizabeth Prichard, yn 83 mlwydd a phum mis oed.Ganwyd hi yn Tanyffordd Sir Gaernarfon.
Ymfudodd i'r America yn 1845, gan ymsefydlu am dymor byr yn Marcy, New York.
Yn 1848, priododd Henry Prichard, a bu yr uniad yn un gwir ddedwydd hyd nes torwvd ef gan angeu, pan oeddynt yn byw yn Turin, Lewis County, New York, ar dyddyn o'r eiddynt eu hunain.
Yn 1886, yn nghwmni ei mab yn nghyfraith, R. R. Owens, a'i merch, Mrs. Owens, ymfudodd hi i Trenton, Nebraska.
Yr oedd yn analluog i ddylyn moddion gras gyda chysondeb o herwydd ei gwaeledd a'i hoedran. Ond pethau crefydd wedi y cwbl oedd prif destynau ei myfyrdod, a'r Beibl oedd ei llyfr. Ei dewisol hymnau oedd,
"Pwy welaf o Edom yn dod,"
"Am graig i adeiladu," a.y.
Gadawodd argraff ddymunol ar feddyliau y teulu a'r cymydogion ei bod yn meddu llawn adnabyddiaeth o'i Gwaredwr, a thrwy hyny cafodd dderbyniad helaeth i mewn i lawenydd ei Harglwydd. Derbyniodd bob ymgeledd a gofal ag oedd yn bosibl oddiar law ei merch. Mae brawd iddi, Thomas Roberts, yn Ffestiniog, a dwy chwaer, mewn rhanau eraill o Ogledd Cymru.
Ionawr 5ed, daeth tyrfa fawr i dalu y gymwynas olaf ir hyn oedd farwol o honi, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. Mr. Hartzell, Stratton.
Duw y nef a fyddo yn nodded i'r teulu.
R. W. EVANS.