MRS. MARY PRITCHARD. SLATINGTON, PENNSYLVANIA.

Gorphenaf. 6ed, 1896, Mrs. Mary Pritchard, gwraig yr adnabyddus Griffith Pritchard, Slatington, Pennsylvania, gan adael o'i hol i alaru ei gŵr a chwech o blant - John yn Drifton, Griffith yn Hazelton, tair merch yn Philadelphia, ac un yn Slatington, yr oll yn briod oddigerth John.

Yr oedd yr ymadawedig yn 66 mlwydd oed. Bu yn wraig nodedig o dda a gofalus, yn fam o r mwyaf tyner ac hunan ymwadol. Yr oedd yn enedigol o ardal Dinorwig, Gogledd Cymru. Daeth hi a'i gŵr i'r wlad hon tua deugain mlynedd yn ôl a buont byw braidd yr oll o'r amser yn Slatington, Pennsylvania.

Cafodd gystudd maith, ond dyoddefodd fel y bu fyw yn Gristionoges, a'i hymddiried yn yr Arglwydd. Bydd yn chwithig iawn o'i hol, ond "coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig."

Dyma yr ail dro mewn tair wythnos i eglwys y Bedyddwyr i alaru ar ôl aelod. Duw fyddo yn gymorth i ni oll, ac yn enwedig y teulu.

Y Drych ~ Gorffenaf 16eg 1896.