MRS. ANN SEELY (PUGH). SYRACUSE, NEW YORK.

Mawrth 6ed, 1896, yn Syracuse, New York, Ann Pugh, priod Obadiah Seely.

Ganed hi yn Towyn Meirionydd, Mawrth 26ain, 1833. Pan yn 14 oed symudodd i Syracuse, lle y treuliodd weddill ei hoes. Yn 1859 priododd.

Yn 1872 ymunodd a'r Centennary M. E. Church, a bu yn aelod ffyddlon hyd angeu. Goroesir hi gan ei phriod, un mab a dwy ferch.

Y Drych ~ Ebrill 23ain 1896.