MRS. WINIFRED PARRY REES. DELTA, PENNSYLVANIA.

Awst 27ain, 1896, yn Delta, Pennsylvania, y chwaer anwyl Mrs. Rees, priod y brawd a'r blaenor ffyddlon R. R. Rees, yn 58 mlwydd oed.

Dyoddefodd gystudd maith yn dawel a dirwgnach, a gorphenodd ei gyrfa mewn llawn hyder ffydd. Un o rai llariaidd y ddaear oedd Mrs. Rees. Yr oedd o duedd naturiol lawen, siriol a chyfeillgar. Nid oedd cyfnewidiadau y byd nac amgylchiadau amser yn newid dim arni hi; er eu bod wedi ymddyrchafu i sefyllfa uwchlaw y cyffredin.

Mae Mr. Rees yn brif oruchwyliwr a rhanddalydd yn mhrif chwarel y gymydogaeth, eto yr un oedd hi. Cyfarfyddai ei chymydogion tlawd a chyfoethog yr un mor siriol. Byddai bob amser yn gyntaf i gyfarch, a theimlem ei fod yn tarddu o galon gynes, lawn o deimlad.

Yn hen dref enwog Dolgellau, Meirion, y ganwyd ac y magwyd hi, ac oddiyno yr ymfudodd i'r wlad hon. Bu yn gweini am dymor yn ninas New York, o'r hwn le y priododd gyda Mr. Rees; wedi hyny ymsefydlasant yn yr ardal hon, a bu y cysylltiad yn un dedwydd a llwyddianus am tua 31 mlynedd, fel yr oedd yr ymddatodiad yn achosi trallod dwys yn y teulu. Yr oedd fel priod a mam bob amser yn dyner a gofalus. Er iddi gael byw i fagu ei phlant, bu raid ei gollwng ymaith fe ddichon yn yr adeg fwyaf anhawdd ei hebgor, pan oedd y plant wedi dyfod i sylweddoli beth oedd serch, teimlad a gofal mam, a phan oedd ei phriod galarus mewn mwyaf o angen am ryw un cymwys i ofalu am dano, ei gynorthwyo a chydymdeimlo ag ef yn hwyrddydd ei fywyd.

Yr oedd bywyd crefyddol ein chwaer yn un gwastad a difwlch. Ni byddai un amser dan ryw gynyrfiadau neillduol, nac yn hollol ddilewyrch ychwaith. Cychwynodd ei gyrfa grefyddol yn eglwys barchus Salem, Dolgellau. Meddyliai yn uchel a pharchus am yr hen frodyr yno. Byddai yn hoff iawn o son am ragoriaethau y dynion rhagorol hyny, Mr. Thomas, Ive House, R. Oliver Rees, a Daniel Jones, Shop Fach, ac eraill sydd wedi ei rhagflaenu i ogoniant.

Erbyn hyn mae ei lle yn wag yn mysg ei chymydogion, yn y teulu, ac yn eglwys Dduw, ond mae hi ar gael er hyny yn y lle a barotowyd iddi gan yr Iesu.

Gadawodd mewn galar briod a thri o feibion, sef Proff. R. P. Rees, Harry C. Rees a Richard Rees, yr hynaf yn briod, a'r ddau ieuengaf yn fechgyn ieuainc dymunol; diau y byddant yn swcwr mawr i'w tad yn ei unigedd.

Dydd Sadwrn, y 29ain, ymgynullodd tyrfa anarferol i dalu y gymwynas olaf i'n chwaer. Dygwyd ei gweddillion i addoldy y T. C., lle yr oedd yn aelod; a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. H. F. Williams a D. J. Roberts, yn Gymraeg, a'r Parch. Mr. Stewart yn Saesneg. Rhoddwyd ei chorff i orwedd yn mynwent Slateville, y Parch. H. F. Williams yn gweinyddu wrth y bedd.
W. C. R.

Y Drych ~ Medi 17eg 1896.