MRS. ELIZABETH ROBERTS. NEW CAMBRIA, MISSOURI.

Rhagfyr 11eg, 1896, yn New Cambria, Missouri, Mrs. Roberts, priod Morris Roberts, yn 41 oed.

Merch ydoedd i William Williams, Dolmynach, Trawsfynydd, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, yr hwn sydd eto yn fyw ac yn ddiacon ffyddlon. Priododd yr ymadawedig a mab Bryn Ysguboriau, Trawsfynydd, yn 1877. Daethant i'r wlad hon yn 1890, gyda phedwar o blant, gan sefydlu yn New Cambria, Missouri.

Cafodd Mrs. Roberts gystudd caled am tua phum mis, yr hwn a ddyoddefodd yn dawel ac amyneddgar, gan roddi ei phwys ar ei Cheidwad. Yr oedd yn aelod ffyddlon a gweithgar o'r eglwys Annibynol yn y dref, a theimla yr eglwys hiraeth, gwagder a cholled fawr ar ei hol. Cyfrifid hi yn un o'r gwragedd mwyaf crefyddol ei hysbryd. Crefydd a'i Gwaredwr oedd yn cael y lle blaenaf yn ei chalon, ac erbyn hyn mae ei hysbryd wedi dianc at y Gwr oedd yn denu ei bryd.

Dydd Sadwrn, Rhagfyr 12fed, claddwyd hi yn mynwent New Cambria. Daeth torf fawr i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref. Gweinyddwyd wrth y tŷ ac ar lan y bedd gan ei gweinidog, y Parch. J. Morlais Richards, a'r Parchn. Wiggins a Keeler. Canwyd ar lan y bedd, "Bydd myrdd o ryfeddodau."

Bore Sul canlynol, Rhag. 13eg, cafwyd pregeth goffadwriaethol ragorol i Mrs. Roberts gan ei gweinidog oddiar y geiriau, Phil. 1: 21, "Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw," pryd yr oedd y capel wedi ei orlenwi. O bawb, y priod a'r pedwar plentyn a deimlant golled fwyaf ar ôl un anwyl a hoff.

Y Drych ~ Rhagfyr 24ain 1896.