MR. JOHN E. ROBERTS. OLD MAN'S CREEK, IOWA.

Medi 24ain, 1896, yn nhy ei fab, John R. Roberts, Old Man's Creek, Iowa, y Cymro parchus John E. Roberts. Yr oedd wedi bod yn wael er's amryw fisoedd.

Ganwyd ef yn Bryn Moel, plwyf Llanycil, yn agos i'r Bala, Swydd Meirion, Ebrill 2ail, 1816. Enwau ei rieni oeddynt Robert a Jane Roberts.

Priododd Mai 17eg, 1850, Miss Ann Jones, Nantgwylyn, Bodffari, Swydd Fflint, Gogledd Cymru, a buont yn byw yn Gwrecsam am rai blynyddoedd. Daethant i'r wlad hon yn 1855, gan ymsefydlu yn Davenport, Scott County, Iowa, ond gan nad oedd yno gyfleusderau crefyddol Cymreig, symudasant i Old Man's Creek, Chwefror, 1865.

Bu ef a'i briod ar ymweliad a'r Hen Wlad tua deng mlynedd yn ôl. Wedi eu dychweliad gwnaethant eu cartref am y rhan ddiweddaf o'u hoes gyda'r mab, John R.

Bu yr ymadawedig yn aelod gweithgar o eglwys lesu Grist ar hyd ei oes a llanwodd y swydd o ddiacon am dros 28 mlynedd, gan brofi ei hun yn weithiwr diwyd, da a defnyddiol iawn. Bydd ein colled ni yma yn fawr ar ei ôl, oblegid dyn da oedd efe, ac iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun.

Gadawodd briod serchog a mab anwyl, mewn cartref cysurus iawn, ond y mae ef erbyn heddyw wedi cael cartref yn y Nefoedd. Caffed y perthynasau oll allu i ddywedyd,

"Yr Arglwydd a roddodd, a'r Arglwydd a gymerodd ymaith, bendigedig fyddo enw yr Arglwydd."

Daearwyd yr hyn oedd farwol o hono ddydd Sadwrn, Medi 26ain, pryd y gweinyddwyd gan yr ysgrifenydd.
H. P. ROBERTS.

Y Drych ~ Hydref 15fed 1896.