MRS. JOHN W. ROBERTS. NELSON, NEW YORK.
Awst 17eg, 1896, yn Nelson, New York, Mrs. John W. Roberts, yn 65 mlwydd oed.Ganwyd hi yn Bryncrug, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Merch ydoedd i John a Gwen Owens, Rhyd-yr-onen.
Priododd John W. Roberts yn y flwyddyn 1854. Ymfudasant yn 1857 i Nelson. Buont am rai blynyddau yn New York Mills, ac oddiyno symudasant i Nelson yn ôl, lle bu hyd ddiwedd ei hoes.
Gadawodd ar ei hol briod ac wyth o blant yn fyw.
Yr oedd hi yn aelod crefyddol yn eglwys yr A. ers dros ugain mlynedd.
Bu yn wael am ddwy flynedd, a bu farw yn hyderus iawn, canys dywedodd cyn huno, fod ofnau y glyn wedi ei gadael.
Yr oedd yn fam dyner, priod gofalus, yn gwarchod gartref yn dda, a chymydoges dawel a charedig.
Cafodd angladd parchus; daeth tyrfa luosog yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddi. Gweinyddwyd yn y tŷ, yn y capel, ac ar lan y bedd gan yr ysgrifenydd yn y ddwy iaith.
R. HUGHES.