MRS. MARGARET ROBERTS. 714 36th AVENUE, DENVER, COLORADO.

Ebrill 8fed, 1896, yn 714 36th Avenue, Denver, Colorado, yn 69 mlwydd oed, Margaret priod Thomas. T. Roberts.

Ganwyd yr ymadawedig yn Clwtybont, Arfon, ond ymfudodd i'r Talaethau Unedig yn 1844, gan ymsefydlu yn Racine, Wisconsin; oddiyno i Colorado yn 1877.

Brawd iddi oedd y Parch. John Evans a rewodd i farwolaeth yn Iowa rai blynyddoedd yn ôl. Mae iddi chwaer yn aros yn y Dwyrain, a brawd yn Jamestown, Colorado.

Colled fawr i briod unig a mab a merch amddifad. Dodwyd ei gweddillion i orwedd, gan dyrfa barchus, yn mynwent Fairmont.
E. C. R.

Y Drych ~ Ebrill 30ain 1896.