MRS. MARGARET ROBERTS. RACINE, WISCONSIN.

Rhagfyr 9fed, 1896, yn Racine, Wisconsin, Margaret, priod Capt. Owen D. Roberts, o'r apoplexy, yn 69 mlwydd oed.

Merch ydoedd i Robert ac Ann Jones, Penbrynyberthen, Penrhyndeudraeth, Meirion, Gogledd Cymru.

Ymfudodd i'r America yn Gorphenaf, 1853, gan ymsefydlu yn Chicago. Yn Medi yr un flwyddyn priododd a'r un ag y sydd wedi ei adael mewn tristwch dwfn a hiraeth mawr ar ei hol.

Yn 1855 symudasant i Racine, lle y maent wedi byw o hyny allan. Ganed iddynt bedwar o blant, a bu y cyntaf anedig farw yn ei fabandod. Bu dwy ferch farw, sef Jennie yn 14 oed, a Maggie yn 29 mlwydd oed, y naill a'r llall wedi bod yn gystuddiol a nychlyd am lawer o fiynyddoedd. Y mae un mab yn fyw i alaru ar ôl mam dirion a gofalus.

Cafodd Mrs. Roberts ran helaeth o ofidiau y bywyd hwn, ac yr oedd yn syndod pa fodd yr oedd yn gallu dal cystal dan ei holl dreialon. Yr oedd bob amser yn siriol, ac ni byddai byth yn grwgnach, ond yn ymostwng yn dawel i droion rhyfedd rhagluniaeth. Dyoddefodd yn galed oddiwrth yr asthma yn mlynyddoedd diweddaf ei hoes. Yr oedd wedi dweyd lawer gwaith y buasai farw yn sydyn, ac felly y gwnaeth. Cododd y bore y bu farw fel arfer, ac ar ol boreu-fwyd tarawyd hi yn sal, a chyn i'r meddyg gyraedd ati yr oedd ei henaid wedi ehedeg at Dduw yr hwn a'i rhoes.

Parodd y newydd am ei marwolaeth sydyn fraw a syndod yn mysg ei chymydogion a'i lluaws cyfeillion. Yr oedd yn aelod ffyddlon o eglwys y T. C. yn y ddinas er's blynyddoedd lawer. Nid oedd gan y rhai a'i hadwaenai, ameuaeth o berthynas i wirionedd ei chrefydd. Cafodd groesi yr Iorddonen donog heb deimlo dim o rym ei dwfr.

Cymerodd ei hangladd le o'i chartref ar yr lleg cyfisol, y Parchn. Cadwaladr, Evans a'i gweinidog, R. T. Roberts, M. A., yn gweinyddu.

Yr oedd nifer y rhai a ddaeth yn nghyd i dalu y deyrnged olaf o barch i'w gweddillion mor luosog fel nad allai ond rhyw un ran o dair fyned i mewn i'r ty. Eiddunir nodded ac amddiffyn yr Hollalluog i'r tad a'r mab galarus.

Y Drych ~ Rhagfyr 24ain 1896.