MR. ROBERT ROBERTS. PLYMOUTH, PENNSYLVANIA.

Mehefin 4ydd, 1896 yn Plymouth, Pennsylvania, y cyfaill cywir ar Cristion dysglaer Robert Roberts ("Robert Llanberis") yn 47 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn Cefn Coch, Pwllheli, yn 1849. Pan yn 20 oed priododd Elizabeth Pntchard, yr hon sydd heddyw yn ei galar, gyda chwech o blant, tri o honynt wedi priodi - Robert Roberts, hen was Dr. D. T. Jones, yr hwn fu yn wir ffyddlon i'w dad trwy ei gystudd; John Roberts, yn gweithio gyda pheirianau dwfr y Nottingham Shaft; Mrs. Williams, priod Morgan Williams, coedwr yn Avondale (yn nhy y rhai y bu yr ymadawedig farw). David a dwy chwaer fechan gartref gyda'u mam. Claddwyd dau blentyn iddynt. Pan yn 28 oed, symudodd Robert Roberts i Llanberis, a thua deg mlynedd yn ol daeth i America.

Ymunodd â chrefydd pan yn 25 oed, a daliodd ei broffes yn ffyddlon hyd y diwedd, er nad oedd yn rhyw ddawnus iawn. Gofalai am y plant yn ysgol Sul yr A., a bu yn llyfrgellydd am hir amser.

Dywedai ei brofiad bob amser mewn teimladau da; a rhedai rhyw drydaniaeth trwy y cyfarfod pan fyddai ar weddi. Yr oedd yn rhy wylaidd i roddi emyn allan, ond gyda'i fod ar ei liniau yr oedd yn hawdd gwybod fod y nefoedd ac yntau yn agos i'w gilydd. Yr oedd yn hoff o ddarllen Job, y Salmau ac Esaiah, ac un o'i hoff adnodau oedd, "Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd a'i feddylfryd arnat ti."

Dyoddefodd agos ddwy flynedd o gystudd yn hynod o amyneddgar. Cyngorodd y meddyg ef i fyned i Gymru, ac yr oedd wedi tori ei gartref i fyny, ac yn aros gyda'i ferch, gan feddwl cychwyn yr un pryd a'r Parch. R. E. Williams, Mehefin 3ydd; ond ymddengys fod y meddyg mawr wedi penderfynu ei gymeryd adref i wlad well.

Y dydd Llun canlynol cafodd angladd lluosog, y Parch. B. G. Newton yn gweinyddu - wedi dyfod yn un pwrpas o Cleveland, Ohio, i dalu y gymwynas olaf i'w hen gyfaill. Dywed Mr. Newton fod Mr. Roberts wedi gadael eiddo i'w blant nad oedd y byd yn gwybod am dano; yr oedd tad duwiol yn rhagori ar y dyn mwyaf cyfoethog; a bu Mr. Rooerts yn archoffeiriad ffyddlon ar yr aelwyd. Awd o'r capel i fynwent Turkey Hill, lle gweinyddodd John E. Jones, cyn-lywydd yr Iforiaid, yn briodol iawn; hefyd canwyd ar lan y bedd, "Bydd Myrdd o Ryfeddodau." Yr archgludwyr oeddynt Isaac Edwards, James H. Williams, T. T. Jones - diaconiaid, a J. D. Stephens, Michael James a W. Roberts dros yr Iforiaid. Cludid blodau ac enw y tad arnynt gan yr ysgrifenydu. Joseph Lewis, Wilkesbarre.

Y Drych ~ Mehefin 25ain 1896.