MR. WILLIAM ROBERTS. PLAINFIELD, OTSEGO COUNTY, NEW YORK.

Gorphenaf 29ain, 1896, William Roberts, Plainfield, Otsego Co., New York, yn 41 mlwydd oed, ar ôl ond pedwar diwrnod o ddyoddef oddiwrth y Brights Disease.

Mab ydoedd i William a Mary Roberts, Tainewyddion, Bodvean, Gogledd Cymru.

Ymfudodd i Plainfield yn 1884; a'r flwyddyn ganlynol priododd Miss Jane Evans, merch Richard ac Ellin Evans, Llaniestyn, Gogledd Cymru, yr hon a adawyd gyd- ag un ferch i alaru.

Hefyd y mae iddo ddwy chwaer yn y wlad hon, sef Mrs. William Humphreys, New Hartford, a Miss Ellen Roberts, Plainfield. Yr oedd yn Gristion gloew, yn Israeliad yn wir, ac yn gwybod yr Ysgrythyr lan er yn fachgen.

Cerid ef gan bawb, a'r hwn oedd yn ei adnabod oreu a'i carai fwyaf. Fel crefyddwr yr oedd yn ffyddlon; a gwnaeth ei oreu yn ol ei allu; a bydd colled yn yr ardal ar ei ôl. Na wyled ei berthynasau fel rhai heb obaith, a bydded i'r eglwys yn ei cholled wasgu ati ei hun yr angenrheidrwydd o fyw duwiol, gan gofio "Na wyddom na'r , na'r awr y daw mab y dyn."

Dangosodd y dyrfa luosog ddaeth yn nghyd i'w angladd ar yr 31ain, ei fod yn barchus a chymeradwy yn y cymydogaethau hyn. Gwasanaethwyd gan yr ysgrifenydd a'r Parch, o. W. Roberts, Paris. Dodwyd ei weddillion yn Unadilla Forks.
HENRY R. HUGHES.

Y Drych ~ Awst 20fed 1896.