MRS. ANN THOMAS. ALMIRA, WASHINGTON.
Gorphenaf 23ain, 1896, yn Almira, Washington, Mrs. Ann Thomas, anwyl briod W. R. Thomas, yn dra annysgwyliadwy, yn 40 mlwydd, 2 fis, a 13 diwrnod oed.Gadawodd briod hoff, un mab a dwy ferch i alaru ar ei hol.
Mis cyn ei marwolaeth tarawyd hi ag ergyd o'r parlys, ac yn mhen 30 diwrnod cafodd yr ail ergyd, yr hyn a'i gwnaeth yn hollol anwybodol, a bu farw yn mhen 18 awr. Cafodd bob gofal a thriniaeth dysgwyliadwy i gynorthwyo adferiad ei hiechyd. Yr oedd yn anwyl iawn i'w theulu, ac ergyd drom iddynt yw ei cholli.
Dranoeth daeth tyrfa fawr yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion. Gweinyddwyd gan y Parch. James Howell, gweinidog yr eglwys y perthynai iddi. Dangosodd yr ardalwyr a'r cymydogion wir barch i'r ymadawedig, ac hefyd gydymdeimlad cywir a'r teulu galarus oedd yn cymeryd priod ffyddlon a mam dyner i dŷ ei hir gartref.
Merch oedd i'r diweddar Llewelyn Jones, teiliwr, Tanygrisiau; Ffestiniog, Gogledd Cymru. Derbyniwyd hi yn aelod eglwysig gyda'r Annibynwyr pan oedd o 12 i 13 oed, a glynodd wrth ei phroffes hyd y diwedd.
Priododd W. R. Thomas Ebrill 15fed, 1876, ac yn fuan symudasant i America; ond yn mhen chwe mlynedd dychwelasant i Gymru, gan feddwl gwneuthur eu cartref yno, ond yn mhen 3 mlynedd a haner daethant drosodd drachefn, gan ymsefydlu yn Kansas, o'r hon Dalaeth y symudasant i'r Big Bend, Washington, bum mlynedd yn ôl.
Teimlir colled fawr ar ei hol. Yr oedd yn dda i gadw ei chydgynulliad yn yr eglwys, ac yn gynorthwy sylweddol iawn gyda'r canu, yr ysgol Sul, a'r cyfarfod gweddi. Pa beth bynag ymaflai ynddo, yr oedd yn ei wneuthur a'i holl egni.
Yr oedd Elias Jones, yr hwn fu farw yn Chicago ddwy neu dair blynedd yn ôl, yn frawd iddi; ac mae brawd, William yn byw yn Patagonia, a chwaer a pherthynasau eraill yn Nghymru.
JAMES HOWELL.