MRS. ANN WILLIAMS. 625 DUNCAN PARK, CHICAGO, ILLINOIS.

Mawrth 23ain, 1896, Mrs. Ann Williams, priod Mr. Robert H. Williams, 625 Duncan Park, Chicago, Illinois.

Bu yn nychu am gryn amser o dan y melynglwyf, yn nghyd ag anhwylderau eraill.

Ganwyd hi yn Bethesda, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn 1832, felly yr oedd yn agos i 64 mlwydd oed.

Ymbriododd â Mr. Williams yn Bethesda yn 1853, a daethant i America yn 1858, gan ymsefydlu yn ninas Chicago, lle y treuliodd ein chwaer y gweddill o'i hoes. Buont yma yn llwyddianus trwy lafur ac ymdrech i gasglu rhan dda o bethau y byd hwn. Ganwyd iddynt ddeg o blant, saith o'r rhai sydd yn awr yn fyw, ac oll yn y ddinas hon, a'r ieuengaf o honynt yn 21 mlwydd oed.

Bu hi yn ddiwyd iawn i ddwyn i fyny ei theulu lluosog. Y mae un o'i merched yn briod a'r diacon Thomas R. Evans o eglwys y South Side. Yr oedd ein chwaer yn aelod mewn eglwys Bresbyteraidd Seisnig; ond wedi penderfynu rhoddi ei llythyr yn yr eglwys Gymreig; daeth cystudd ac angeu cyn iddi allu rhoddi ei bwriad mewn gweithrediad, a symudwyd hi, ni a hyderwn, i'r eglwys berffaith yn y nef. Dyoddefodd yn dawel, a gadawodd dystiolaeth ei bod yn marw a'i phwys ar yr Iawn mawr. Nododd rai penillion ei hunan i'w canu yn yr angladd. Mawrth y 26ain, rhoddwyd ei rhan farwol i orphwvs yn mynwent Oakwood gan dyrfa luosog. Cyflawnwyd y gwasanaeth drefyddol yn y tŷ ac wrth y bedd gan yr ysgrifenydd.

Bydded Duw yn dirion wrth ei phriod a'i phlant yn eu galar a'u colled.
THOMAS E. HUGHES.

Y Drych ~ Ebrill 9fed 1896.