MRS. CATHERINE WILLIAMS. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ionawr 30ain, 1896, yn Rome, New York, ar ôl dim ond dau ddiwrnod o gystudd, Mrs. Richard T. Williams. Ni chafodd gymaint a dweyd gair wrth ei phriod na, i chyfeillion tra y bu yn wael.

Daeth Mrs. Williams i'r wlad hon o Llanberis, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, tuag wyth neu naw mlynedd yn ôl, a bu yn hynod ffyddlawn a gweithgar mewn byd ac eglwys. Yr oedd yn aelod ffyddlawn a selog gyda y T. C., ac mae yn golled i'r eglwys ar ei hol.

Yn Mai diweddaf ymunodd mewn glan briodas a'r brawd R. T. Williams, yr hwn sydd yn ddiacon ffyddlon yn yr eglwys uchod. Bu ei huniad yn un hynod o ddedwydd a hapus, ond ni pharhaodd ond ychydig. Daeth y chwalwr heibio. Gadawodd briod tyner a gofalus i alaru ar ei hol.

Dydd Llun, Chwefror 3ydd, daeth lluaws mawr yn nghyd o gyfeillion a pherthynasau i dalu y gymwynas olaf iddi. Gweinyddwyd gan y Parchn. John H. Jones yn Saesneg a R. Williams vn Gymraeg, a chladdwyd yr hyn oedd farwol ohoni yn Wright's Settlement.

Fy nymuniad ar ran ei phriod yw iddo gael nodded yr Arglwydd, yr hwn all ei gynal yn ei drallod.
EGWAN.

Y Drych ~ Mawrth 5ed 1896.


MRS. CATHERINE WILLIAMS. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ionawr 30ain, 1896, yn Rome, New York, ar ôl byr gystudd, bu farw Mrs. Catherine Williams, anwyl a serchus briod Mr. Richard T. Williams, yn ei 31 mlwydd a 11 mis o oedran.

Merch ydoedd yr ymadawedig i John a Catherine Evans, Bryn Madog, o ardal Bryn-yr-Efail, ger Caernarfon, Gogledd Cymru. Ganwyd hi yn Bryn Madog, Chwefror 29, 1864, ac ymfudodd i'r wlad hon yn 1887, gan ymsefydlu yn Rome. Priodol iawn y gellir cyfeirio at y chwaer ymadawedig eiriau y Salmydd, "Fy nyddiau sydd fel cysgod yn cilio, a minau fel glaswelltyn a wywais."

Unwyd hi mewn glan briodas gyda Mr. Richard T. Williams, Mai 16eg, 1895, ac arfaethasai y ddeuddyn dyddan gael hir oes o fwynhad yn y sefyllfa newydd; ond fel y gwelir byr iawn fu yr undeb priodasol, ond "Nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i, medd yr Arglwydd."

Dyoddefodd ei chystudd byr yn dawel a dirwgnach, gan ymorphwys yn dawel ar yr Hollalluog law, a llwyr ymostwng i'w ffyrdd dyrus rhagluniaethol Ef. Dygwyd hi i fyny yn "addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd" o'i mebyd, gyda chyfundeb y T. C, a pharhaodd yn ddi-fwlch, selog, ffyddlon, a didramgwydd, a'i hysgwyddau odditan yr arch, gan dramwy ffyrdd rhinwedd a chrefydd yn ddiargyhoedd hyd derfyn ei thaith. Dygai fawr sel dros adranau allanol o wasanaeth y cysegr, a phrofodd yn esiampl deilwng drwy ei haelioni at bob achos da, rhoddodd fel y bendithiodd Duw hi. Arddangosai sel, ffyddlondeb, a gweithgarwch gyda gwasanaeth ysbrydol y cysegr, drwy brynu yr amser er ei galluogi i ddylyn moddion gras gydag ymroddiad difefl, a nodweddid hi gan sel fawr oes o lafurwaith gyda'r ysgol Sabbothol.

Cymerodd ei hangìadd le Chwefror 3ydd, yn Wright Settlement Cemetry, ac yr oedd llu mawr yn hebryngu ei gweddillion i dŷ ei hir gartref. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Robert Williams (ei gweinidog), a J. H. Jones, Rome, "A gwyr bucheddol a'i dygasant hi i'w chladdu, ac a wnaethant alar mawr am dani." Nid oedd iddi berthynasau agos yn y wlad hon. Y mae iddi ddwy chwaer yn awr yn byw yn ardal Bryn-yr-Efail, Gogledd Cymru, i alaru eu colled ar ei hol. Er fod dyddiau blin a thrallodus wedi goddiweddyd ein hanwyl frawd, nid oes genym ond adgoffa iddo eiriau yr Hwn a wasanaethir ganddo - "Myfi fyddaf gyda thi." Y pechod parod i'n hamgylchu ydyw ymlyniad gormodol wrth, a chofleidio y diflanedig, heb weithredu ffydd ar y pethau nis gwelir a'r tragwyddol.

Bydded i'w galon a'i enaid fod yn ddarostyngedig i'w hewyllys ben arglwyddiaethol Ef, gan sugno cysurol fêl y Patriarch Job gynt, "Yr Arglwydd a roddodd a'r Arglwydd a ddygodd ymaith, bendigedig fyddo enw yr Arglwydd."
Menaifardd, New York.

Y Cyfaill Americanaidd ~ Mehefin 1896.