MISS. EMMA WILLIAMS. CINCINNATI, OHIO.

Tachwedd 14eg, 1896, yn Cincinnati, Ohio, Miss Emma, Williams, merch William P. Williams a'i briod, Mrs. Evildra Williams, Eggleston Avenue.

Ganwyd hi yn Dinas Mawddwy, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, Mehefin 19eg, 1871. Ymfudodd y teulu i America yn 1883, ac ymsefydlasant yn Cincinnati.

Yr oedd Miss Williams yn ferch dawel a synwyrol. Pur wael oedd ei hiechyd y tair blynedd olaf o'i bywyd, eto dyoddefodd ei chystudd yn hynod amyneddgar, ac yn berffaith foddlawn i ewyllys yr Arglwydd. Ychydig ddyddiau cyn marw, dymunai a'r arian oedd ganddi i brynu "Teacher's Beibl" yn anrheg i'w mam am weini arni mor ffyddlawn; ac wrth ochr gwely ei merch, am y tro cyntaf o'r Beibl hwnw, gwnaeth ei mam ddarllen y geiriau hyny, "Na thralloder eich calon, yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof inau hefyd. Yn nhy fy Nhad y mae llawer o drigfanau," a.y. A phan yn myned. i lawr i "lyn cysgod angeu" dywedai, "O it is just lovely, I wish you could see how beautiful everything is."

Yr oedd yn aelod o eglwys Lawrence Street er's amryw flynyddau. Daeth tyrfa fawr i'r capel ddydd yr angladd. Canwyd "Leaf by leaf the roses fall" gan Miss Mary Dacey, ac ar ddymuniad y teulu "Nearer my God to thee."

Pregethwyd gan y Parch. W. O. Jones, a chymerodd v Parch H. W. Griffith ran yn y gwasanaeth. Claddwyd chwaer i Miss Williams yn mis Awst diweddaf. Yr Arglwydd a'u cynalio yn eu trallod hwn eto.

Y Drych ~ Rhagfyr 31ain 1896.