MRS. LAURA WILLIAMS. DOLGAU, MOUNT PLEASANT, RACINE, WISCONSIN.

Ionawr 9fed, 1896, yn Dolgau, plwyf Mount Pleasant, Racine, Wisconsin, Mrs. Laura Williams, yn 72 mlwydd oed, sef gweddw William R. Williims, Fronheulog, ger Cambria, Wisconsin.

Ganed hi yn y Faner, ger Dolgelley, a hi oedd yr hynaf o blant John a Margaret Owen, o'r un lle.

Ymfudodd ei rhieni a'r plant eraill i America yn 1846, gan ymsefydlu yn Caledonia, Swydd Columbia, Wisconsin, ac arosodd hi yn Nghymru, ond daeth hithau drosodd gyda ei hewyrthr. William Bebb, Rhiwgriafol, a'i deulu yn 1848, gan fyned gyda hwy i Ohio ar y cyntaf, ond daeth i Racine yn Hydref yr un flwyddyn, ac yn gynar y flwyddyn ganlynol i Caledonia.

Yn lled fuan wedyn ymbriododd gyda William R. Williams, brodor o Ffestiniog. Ganed iddynt un ferch, sef Mrs. Griffith Richards yn awr. Wedi i Mr. Richards brynu Dolgau, treftadaeth ei henafiaid, daeth ef a'i deulu yn 1892 i fyw i ardal Racine, a daeth Mrs. Williams gyda hwy. Yr oedd hi wedi bod yn llesg a gwanllyd er's llawer o flynyddoedd; ond er's rhai misoedd yr oedd yn gwaelu yn gyflym.

Yr oedd yn hynod siriol yn ei holl nychdod. Cafodd ei dwyn i fyny yn grefyddol o'i mebyd yn nghyfundeb y T. C., ond wedi dyfod yma ymunodd ag eglwys yr yr hon oedd yn gyfagos i'w chartref. Yr oedd yn gadarn yn yr ysgrythyrau, ac yn deall egwyddorion crefydd yn dda. Yr oedd yn mwynhau cysuron crefydd yn helaeth, er mai ychydig o foddion gras oedd yn allu fynychu y blynyddoedd diweddaf o'i hoes. Derbyniodd y gofal mwyaf tyner gan ei merch a'i hwyrion.

Caed gwasanaeth crefyddol ar y lOfed yn ei chartref cyn mvned a'i gweddillion i Cambria, a chymerwyd rhan ynddo gan y Parchn. Dickinson, Roberts, Evans a Cadwaladr.

Ar y 11eg cymerodd yr angladd le o addoldy y T. C. yn Cambria, pryd y gwasanaethodd y Parchn. E. Morgan, R. H. Evans a R. H. Jones, Coleg Ripon. Daeth tyrfa fawr yn nghyd i dalu y deyrnged olaf o serch i un a hoffent yn fawr. Claddwyd hi wrth ochr ei phriod yn mynwent Cambria.
T. L. W.

Y Drych ~ Ionawr 30ain 1896.