MR. RICHARD J. WILLIAMS. CHEMUNG, McHENRY COUNTY, ILLINOIS.
Rhagfyr 21, 1896, yn nhy ei ferch, Mrs. D. B. Jones, Bark River, Wisconsin, Richard J. Williams, o'r darfodedigaeth.Ganwyd ef yn Nghymru. Mab ydoedd i John a Catherine Williams, Bychellun, yn agos i Pwllheli, Arfon, Gogledd Cymru. Daeth i America yn 1845, gan aros gyda'i ewythr, Thomas Williams, yn Newton, Trumbull County, Ohio.
Yn 1852 priododd Miss Mary Ann Jones, merch John D. Jones a'i briod, Palmyra, Ohio. Yn 1865 symudasant i Boone County, Illinois, ac yn 1870 aeth oddiyno i Chemung, McHenry County, Illinois.
Yn 1884 bu farw ei anwyl briod. Y mae pedwar o'r plant yn fyw - Mrs. Ellen Jones, yn Weiner, Waukesha County, Wisconsin; Maggie yn Madison, Wisconsin; Owen yn La Crosse, Wisconsin, a Jesse yn Brookfield, Wisconsin. Mae un brawd iddo yn Australia, a dwy chwaer yn yr Hen Wlad, a llu o berthynasau yno ac yn y wlad hon.
Gweinyddwyd yn ei angladd gan y Parch. O. O. Jones, Wales, ac aed a'i gorff i Chemung i'w gladdu wrth ochr ei anwyl briod a'i fab George. Gweinyddwyd yno gan weinidog y lle.
Ei gefnder, E. L. GRIFFITH.