MR. GRIFFITH D. CADWALADR. MIDDLE GRANVILLe, NEW YORK.

Chwefror 19eg, 1897, yn Middle Granville, New York., Griffith D. Cadwaladr, yn agos i 70 mlwydd oed. Mab ydoedd i'r diweddar Dafydd Cadwaladr, ac Ellinor ei wraig, o Wisconsin.

Ganwyd ef yn Rhostryfan, Arfon. Symudodd ei rieni i ardal Dinorwig, Arfon, ac wedi hyny i Ffestiniog, lle y buont am saith mlynedd. Oddiyno yr ymfudasant i'r America yn 1850. Hwyliasant mewn llong hwyliau o Gaernarfon. Yn y llwyth yr oedd T. LI. Williams, Racine, yn ysgrifenu i'r "Drych" am dano yn ddiweddar. Glaniasant yn New York, ac aeth Dafydd Cadwaladr i Slatington gyda'i deulu.

Yr oedd gwrthrych ein cofiant erbyn hyn wedi tyfu yn llanc, a chyn hir ymbriododd gyda Miss Ann Williams, gynt o Llanddeiniolen, Arfon, a chyn hyny o Llainrhychwyn ger Llanrwst. Yn 1854 symudasant o Slatington i Middle Granville, New York, lle y treuliasant weddill eu hoes, sef tua 43 mlynedd. Prynasant dŷ cysurus, a buont byw mewn llawnder, gan eu bod yn ddiwyd ac ymdrechgar.

Bu iddynt bump o blant, ond maent oll wedi eu rhagflaenu er's llawer blwyddyn, er eu mawr dristwch. Bu farw Jane ac Ellen yr un dydd o'r scarlet fever, Ionawr 4ydd, 1859, un yn 7 a'r llall yn 5 oed. Yn nesaf bu farw Jane Ellen, Mehefin 4ydd, 1864; yna Margaret Ann, Mehefin 8fed, 1868; a Griffith W. Cadwaladr, Medi 17eg, 1881, yn 21 oed. A dyma don fawr arall yn ymgodi Awst 23, 1895, pan y cafodd Mrs. Cad,waladr ei tharo yn drwm iawn gan y pneumonia, fel y bu farw ar 26ain, yn sydyn iawn.

Yr oedd iechyd Griffith yn bur adfeiliedig. Dechreuodd waelu saith mlynedd yn ôl, ac yr oedd yn wanllyd iawn i ddal yr ystorm olaf hon. Yn wir, nid oedd neb yn meddwl y buasai ei briod yn ei ragflaenu; ond cafodd ein brawd estyn ei oes tua blwydd yn a haner ar ei hol, a hyny mewn hiraeth a gwaeledd nad oedd ond ychydig allai gydymdeimlo ag ef.

Dydd Mercher, Chwefror 17eg, cafodd ei daro yn drwm iawn gan yr un anhwyldeb, a dydd Gwener hunodd yn yr angeu.

Dydd Llun, yr 21ain, daeth tyrfa fawr o'r gwahanol ardaloedd er hebrwng ei weddillion at ei anwyliaid, ac yn y fynwent y mae y teulu yn gyfan, heb na thad na mam na phlentyn amddifad i alaru y naill ar ôl y llall. Cludwyd ei weddillion i'r capel, lle y cafwyd anerchiad tarawiadol iawn gan y Parch. John Williams, Granville. Hefyd yr oedd ei frodyr Iforaiidd yn orymdaith drefnus yn cymeryd gofal y claddedigaeth, a'u caplan, William J. Williams, yn darllen eu gasanaeth claddu ar lan y bedd. Y galarwyr oeddynt Dr. Joseph Roberts o New York, gyda'i briod, yr hon oedd chwaer i'r ymadrawedig; hefyd John D. Cadwaladr, ac amryw o'r blant. Nis gallodd ei frawd David, sydd yn byw yn Chicago, ddyfod, o herwydd amgylchiadau anorfod.

Daeth ein brawd ymadawedig a'i briod yn aelodau o'n heglwys tua 35 mlynedd yn ôl, a pharhasant yn ffyddlon hyd y diwedd, mewn dylyn moddion gras ac yn eu cyfraniadau arianol. Teimlir colled drom ar eu hol. Buont hefyd yn ffyddlon a charedig tuag at ein gweinidogion, yr hyn sydd yn myned yn mhell i brofi pa faint o gariad oedd ganddynt at eu Meistr, sef Iesu Grist, ein Gwaredwr. Bellach, gorphwysant oddiwrth eu llafur.
G. R. D.

Y Drych ~ Mawrth 4ydd 1897.