MRS. ELLEN R. DAVIES. BANGOR, WISCONSIN.
Ionawr 20fed, 1897, yn Bangor, Wisconsin., Mrs. Ellen R. Davies, o'r parlys, dan yr hwn y bu yn nychu am ddwy flynedd, ond yn hynod amyneddgar.Ganwyd hi yn Lleyn, Sir Gaemarfon, Mawrth 1af, 1831. Daeth i'r wlad hon yn 1840. Merch ydoedd i Griffith a Laura Humphreys. Buont yn byw am beth amser yn Ninety Six, Remsen, New York. Bu farw ei thad yn ddisymwth ar y ffordd yn fuan ar ôl ymsefydlu yno.
Yr oedd hi yn aelod parchus gyda y Trefnyddion Calfinaidd er's blynyddoedd lawer.
Priododd David R. Davies yn ninas New York, Mehefin 18fed, 1857. Daethant i fyw i Bangor yn 1860. Ganwyd iddynt bump o blant, oll yn fyw, ac yn bresenol yn yr angladd ond Arthur, yr hwn oedd yn analluog i ddyfod o herwydd afiechyd.
Claddwyd hi yn Fair View Cemetery, Bangor, Wisconsin, Ionawr 29ain, 1897, y Parchn. H. M. Pugh, J. S. Wilson a J. J. Vaughan yn gweinyddu.