MRS. ANN EVANS. 196 HOWARD AVENUE, UTICA, NEW YORK.

Tachwedd 23ain, 1897, yn 196, Howard Avenue, Utica, New York, priod David Evans, saer maen, yn 63 mlwydd oed, gan adael ar ei hol heblaw ei phriod, ddwy ferch, Miss Maggie Evans a Mrs. Willard W. Jones, ac un mab, David Evans.

Ganwyd yr ymadawedig yn Porthmadog. Ei rhieni oeddynt John a Jennet Evans - ei thad yn cael ei adnabod fel John Evans y garddwr.

Ymfudodd gyda'i theulu i Utica yn 1871; a chan iddynt fyw am lawer o flynyddau yn rhan ddwyreiniol y ddinas adnabyddid hi fel "Mrs. Evans dros y Gulf."

Dyoddefodd hir a phoenus gystudd, yn dawel ac amyneddgar; ac ni pheidiodd a bod yn gyngor a chadernid i'w phlant a'i phriod. Yr oedd yn naturiol o duedd gyfeillgar a llawen; a dangoswyd yn ei hangladd fod iddi luaws o gyfeillion mynwesol. Yr oedd yn aelod o eglwys Moriah, ac yn teimlo dyddordeb yn amgylchiadau yr achos.

Yn ystod ei hafiechyd blin cafodd y gofal tyneraf gan ei merched serchog, a threfnwyd iddi gladdedigaeth barchus ddydd Gwener, pryd y gweinyddwyd gan ei gweinidog, y Parch. J. Hughes Parry, a chan y Parch. Mr. Ball o'r Olivet.

Dodwyd ei gweddillion i orphwys yn y New Forest Hill Cemetery - D. D. Roberts, John Thomas, John E. Williams a J. C. Roberts yn "bearers."

Y Drych ~ Rhagfyr 2ail 1897.