MRS. ELIZABETH EVANS. MOUNT PLEASANT, RACINE, WISCONSIN.
Mai 13eg, 1897, yn Mount Pleasant, ger Racine, Wisconsin, ar ôl hir nychdod a dyoddefaint, Elizabeth, priod Owen J. Evans, yn 75 mlwydd oed.Ganed hi yn Ymwlch, ger Harlech, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Mab Llanddwywe oedd ei thad, a merch Llanfeddigaid oedd ei mam, y naill a'r llall yn perthyn i'r teuluoedd mwyaf adnabyddus a pharchus yn y rhanau hyny o'r wlad. Collodd ei thad pan yn lled ieuanc. Yn 1841 daeth ei hunig frawd William Jones, a fu unwaith yn cadw Carnarvon Castle, New York, a'i chwaer Sarah, yn awr Mrs. James Lewis, New York, i'r wlad hon; ac yn mhen rhyw dair blynedd daeth hithau i'r wlad hon, a bu yn aros yn ninas New York am rai blynyddoedd.
Yn 1846 daeth i Racine, a chyn pen hir priododd gyda Hugh Pugh, mab Arthur Pugh. Ganed iddynt ddau o blant, sef Hugh, yn awr yn Nevada, ac Elizabeth, priod Hugh Williams, Chicago.
Yn 1850, pan oedd y dwymyn aur yn ei hanterth, aeth Hugh Pugh gydag eraill dros y tir o Racine i California. Ar ôl bod yno rai blynyddoedd, collodd ei iechyd, a dychwelodd at ei deulu, ond bu farw yn lled fuan wedyn.
Yn ddiweddarach priododd Mrs. Evans yr ail waith gyda Owen J. Evans, yr hwn gyda y gweddill o'r plant ag sydd yn fyw, sydd yn galaru ar ôl priod; a mam dirion a gofalus.
Cafodd y chwaer hon yfed yn helaeth o gwpaneidiau chwerw profedigaethau y bywyd hwn. Bu merch fechan ddwy flwydd oed farw. Wedi hyny bu ei mab William foddi yn Nebraska wrth geisio achub creaduriaid mewn gorlifiad. Rhyw dair blynedd yn ol bu farw ei merch Mary, pryd y bu bron yr oll o'r teulu yn sal ar yr un adeg. Bu hithau am yn agos yr ugain mlynedd diweddaf yn dyoddef gan y crydcymalau. Yr oedd er's blynyddoedd lawer wedi cael ei hanalluogi i fyned o gwmpas, a'i golwg i raddau mawr wedi pallu, ond dyoddefodd, y cyfan yn hynod amyneddgar a dirwgnach.
Cafodd y gofal a'r tiriondeb mwyaf oddiar law ei theulu yn ei hafiechyd maith. Yr oedd yn wraig o gorff a chyneddfau cryfion. Gweithiodd hi a'i phriod yn galed, hwyrach yn ormodol felly, er anmharu eu cyfansoddiad. Bendithiodd rhagluniaeth waith eu dwylaw, fel ag y mae ganddynt un o'r ffermydd helaethaf yn y sir. Yr oedd Mr. Evans wedi myned i Dalaeth Mississippi i arolygu plantation sydd ganddo yno pan fu farw ei briod.
Cymerodd yr angladd le o'r ty ar yr 17eg, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. R. T. Roberts, M. A., yn yr iaith Saesneg. Daeth nifer fawr yn nghyd o'r wlad a'r ddinas i dalu y gymwynas olaf i un a fawr hoffent.