MRS. JANE EVANS. COED MAWR, CAMBRIA, WISCONSIN.
Awst 7fed, 1897, yn Coed Mawr, ger Cambria Wisconsin, Mrs. Jane R. Evans, yn 58 mlwydd oed, ar ôl bod yn gystuddiol am bedair blynedd a haner, a hyny yn dawel a dirwgnach.Ganwyd hi yn Tai-y-prest, Ffestiniog, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Enwau ei rhieni ydoedd John a Jane Griffiths.
Priododd gydag Elie Evans yn Dolwyddelen, yn mis Ebrill, 1861, ac yn fuan wedi hyn ymfudasant i America, i Cambria, Wisconsin. Ganwyd iddynt 11 o blant, o'r rhai mae naw yn fyw, ac yr oeddynt oll wedi dyfod adref i dalu y gymwynas olaf i'w hanwyl fam. Yr oedd Mrs. Evans yn wraig ddiwyd, ddarbodus, yn fam garuaidd a ffyddlawn; yn gymydoges dawel, wylaidd, heddychlon, ac iddi air da gan bawb a'i hadwaenai.
Dydd Llun, Awst 9fed, daeth torf fawr yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddi. Gwasanaethwyd yn effeithiol iawn gan y Parchn. William E. Evans (T. C.,) Mankato, Minnesota, ac R. M. Williams, (P.,) Cambria, (yn Saesneg.) Hefyd, canwyd y tonau Tanymarian, Kilmorey yn y tŷ a'r Hen Ganfed wrth lan y bedd. Siaradodd Mr. Evans yn bwrpasol a thra effeithiol wrth y bedd, a gweddiodd Mr. Williams yn Saesneg.
"Er oesi yn hir isod - ein gwely
Yw gwael lweh y beddrod;
Mae geiriau'n ddiau i ddod,
A'n geilw eto o'r gwaelod.