MR. MOSES J. EVANS. CASTLETON, VERMONT.
Mai 13eg, 1897, yn Castleton, Vermont, Moses J. Evans, ar ôl dyoddef cystudd caled am rai misoedd, yn dawel a dirwgnach, yn 67 mlwydd oed, gan adael gweddw a 12 o blant i alaru ar ôl tad a phriod tyner.Mab ydoedd i Owen Evans, Ty Brwyn, Llanfrothen, Meirionydd. Ganwyd ef yn 1830.
Ymfudodd i America tua 40 mlynedd yn ôl, gan ymsefydlu yn Vermont i dreulio gweddill ei oes.
Yr oedd yn aelod ffyddlon yn eglwys Blissville er's llawer o flynyddau, ac yn ddyn da a defnyddiol mewn byd ac eglwys; a bydd yn golled fawr ar ei ôl. Hebryngwyd ei weddillion i fynwent Fair Haven gan dyrfa fawr y Sul canlynol. Gweinyddwyd gan y Parch. Ellis Walter Jones a'r Parch. D. M. Jones. Cafwyd pregeth angladdol y Sul dylynol gan y Parch. D. M. Jones, yn wir effeithiol.
Mae iddo frawd yn byw yn Fair Haven, sef John J. Evans, yn un o'r hen sefydlwyr yn y lle. Cafodd angladd mawr a pharchus, yn yr hwn y dangoswyd cydymdeimlad y cylchoedd a'r teulu galarus yn eu profedigaeth lem. Bydded iddynt roddi eu pwys a'u ffydd yn y Duw mawr yn y brofedigaeth hon.
R. W. R.